CATHERINE DAVIES HUGHES. SOUTH POULTNEY, RUTLAND COUNTY, VERMONT.
Drwg genym nad oes neb wedi cofnodi yn y "Drych" hanes marwolaeth Mrs. Cathreine Davies Hughes, anwyl briod Robert Hughes, South Poultney, yr hyn gymerodd le ganol y mis diweddaf, ar ol dyoddef cystudd blin yn dawel a dirwgnach.Ganwyd yr ymadawedig yn Llanberis, Arfon, Gogledd Cymru, Medi 30ain, 1852, yn ferch i'r diweddar Erasmus ac Ellen Davies.
Priododd a Robert Hughes, Awst 22ain, 1869. Gadawodd briod a chwech o blant i hiraethu a galaru ar ei hol, sef Robert, William, Jane, Owen, Jonah a Russell.
Yr oedd yn gymeriad hoff gan bawb, yn garedig a chymwynasgar, yn briod dyner, a mam ofalus, ac mae bwlch mawr yn y teulu a'r ardal ar ei hol.
Cafodd angladd lluosog; y gwasanaeth yn nghapel South Poultney, y Parch. J. W. Morris yn gwasanaethu yno ac ar lan y bedd yn mynwent Poultney.
Heddwch i'w llwch.