HUGH ROWLANS HUGHES. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Bu farw Hugh R. Hughes, 1533 Neilson Street, yn 66 oed, prydnawn Sabboth diweddaf am 1:30 o'r gloch, mewn ysbyty yn y ddinas, o herwydd anhwylderau yn nglyn a llawfeddygaeth y bu raid iddo fyned dani.

Brodor o Sir Gaernarfon. oedd Mr. Hughes, a daeth i'r wlad hon yn 1873, gan ymsefydlu yn Utica, lle y trigodd hyd y diwedd.

Peirianwr a fu yn y Savage Arms am 21 o flynyddoedd.

Aelod ymroddedig iawn a fu Mr. Hughes yn eglwys Bethesda, ac yn un o'r Maswniaid, Cyfrinfa Ddwyreiniol, Rhif 224.

Gedy mewn galar ar ei ol, ei briod, Mrs. Anna G. Hughes; tair merch: Nellie N., Gertrude a Ruth; dau fab: William R. ac Edwin C,; ac un chwaer, Mrs. William E. Pugh, 1415 Miller Street; hefyd, tair nith ac un nai.

Y Drych Gorphenaf 17eg 1919.