JOHN J. HUGHES. WEST NANTICIKE, LUZERNE COUNTY, PENNSYLVANIA.
Cymro arall a'n gadawodd ar fyr rybudd am y byd tu draw i'r llen oedd y cyfaill John J. Hughes, o'r lle hwn. Ni fu yn wael ond tri diwrnod, a'i afiechyd oedd y bronchial pneumonia, ac a drodd yn angeu iddo am bedwar o'r gloch foreu Sul, Hydref 5ed, yn ei 51 mlwydd oed.Gorphenodd ei yrfa ddaearol yn nghartref clyd Mr. a Mrs. William Edwards, ar East Board Street. Ni fu yr ymadawedig erioed yn briod, ac yr oedd wedi bod yn cartrefu gyda'r teulu parchus uchod er's rhai blynyddoedd, a buont hwy yn dyner ac yn garedig hyd y diwedd.
Deallwn mai brodor ydoedd o'r Waenfawr, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru. Nis gwn pa bryd yr ymfudodd i'r wlad hon. Bu yn byw am ryw dymor yn Mount Carmel, Pennsylvania. Tra yno, cyfarfyddodd a damwain a fu yn achos iddo golli ei goes ddehau drwy fyned o dan tren glo.
Symudodd i Nanticoke tua 30 mlynedd yn ol, ac yma yr arosodd hyd derfyn ei oes. Nid oedd yn aelod crefyddol, ond yr oedd ganddo barch mawr i grefydd, ac i broffeswyr crefydd, yn neillduol y rhai y tybiai efe eu bod yn ymdrechu i fyw yn deilwng o'u proffes. Yr oedd yn wrandawr ffyddlon ac astud yn nghapel y Presbyteriaid Cymreig, ac yn gyfranwr cyson ac haelionus er cynaliaeth yr achos yn y lle. Yr oedd ganddo sel fawr tuag at yr Ysgol Sabbothol, yn yr hon y bu yn ffyddlon iawn, a dywedir ei fod yn oleuedig yn yr Ysgrythyrau. Yr oedd yn ddyn cyfeillgar iawn, a gwnaeth iddo lawer iawn o gyfeillion, pa rai a deimlant yn hiraethus ar ei ol. Y mae iddo un brawd a chwaer yn Seattle, Washington.
Ddydd Mercher canlynol, cafodd angladd lluosog a pharchus. Claddwyd ei gorff yn mynwent Edgehill, West Nanticoke, a'r Parch. H. W. Griffiths, B. A., B. D., yn gweinyddu mewn modd effeithiol.
Gan y Parch. A. L. Rowe.