OWEN HUGHES. MIDDLE GRANVILLE, NEW YORK.
Owen Hughes, Middle Granville, New York, yr hwn fu farw, Mai 21ain, yn 67 mlwydd oed. Nid ydoedd y brawd wedi bod yn dda ei iechyd er's blynyddau, ac er ei fod wedi treulio y rhan helaethaf o'i oes yn chwarelau Granville, bu iddo tua tair blynedd yn ol dori ei gysylltiad a'r chwarel, a chychwyn masnach yn Middle Granville, a chredai ei gyfeillion yn sicr ei fod yn adnewyddu nerth, a'i fod am lwyddo yn ei ymgais, ond tua chwe mis yn ol torodd ei iechyd i lawr yn llwyr, ac er y gofal a'r caredigrwydd, daeth yr alwad ar y dyddiad crybwylledig.Ychydig ddyddiau cyn yr ymddatodiad, yr oedd wedi dod i sylweddoli fod yr alwad yn agoshau, ac ymawyddai am gael dweyd "Good-bye" wrth ei gyfeillion, a phan ar derfynu ei daith yn myd o amser, gofynai ei anwyl briod iddo, a fynai ryw beth i fwyta, a dywedodd: "Na, mae amser bwyta wedi myned heibio; diwrnod i ddweyd 'Good-bye' ydyw hwn."
Mab ydoedd i'r diweddariaid Mr. a Mrs. Hugh Hughes, Caellwyngrydd, Llanllechid, Arfon: Daeth i'r wlad hon yn 1871, a bwriodd ei goelbren yn Middle Granville, a chawn iddo ddechreu gweithio gyntaf yn chwarelau Jamesville, New York. Yn 1875, aeth am dro i Gymru. Tachwedd 17, 1880, ymbriododd ag Ellen, merch Mr. a Mrs. John Hughes, Middle Granville, ac o'r uniad ganwyd iddynt un mab, yr hwn fu farw 24 mlynedd yn ol, pan yn 13 oed.
Gadawodd i alaru ar ei ol, ei briod, un chwaer, sef Mrs. Daniel Jones, Granville, ac un brawd, Harry, yn Nghymru, yn nghyd ag amryw berthynasau eraill.
Yr oedd ein brawd yn ddarllenwr mawr a chanddo allu i feddwl ac astudio yr hyn a ddarllenai. Yr oedd yn wr cadarn yn yr Ysgrythyrau, a byddai bob amser yn barod i amddiffyn prif bynciau y grefydd Gristionogol. Darllenai lyfrau o chwaeth a safon uchel, y rhai diweddaraf yn Gymraeg a Seisneg. Bu yn weithiwr ffyddlawn gyda'r Ysgol Sabbothol; yn athraw ar ddosbarth lluosog o wragedd, ac yr oeddynt yn meddwl yn fawr o'u hathraw. Bu hefyd yn ddiacon ffyddlawn a diwyd yn eglwys Middle Granville am ddeunaw mlynedd; yn anrhydeddus uwch-lywydd y Bwrdd Iforaidd; yn drysorydd ac ymddiriedolwr Cyfrinfa "Llywarch Hen" am flynyddau, a llanwodd lawer o swyddau eraill, a gallwn ddweyd mai "yr hyn a ymaflodd ei law ynddo i'w wneuthur, gwnaeth a'i holl galon."
Cafodd angladd anrhydeddus, brydnawn Sadwrn, Mai 24ain, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn. Richard Owen, Fairhaven; Richard Owen, o Goleg Colgate; W. O. Williams, Granville, a John W. Morris, Poultney, Vermont.
Yr archgludwyr oeddynt, John R. Williams, Thomas Rowlands, Granville; W. D. Jones, Rutland; Thomas Rees, Fairhaven; William Parry, Middle Granville; Lewis Jones, West Pawlet. Mae eglwys Middle Granville wedi colli, drwy weinidogaeth angeu, dri o'i diaconiaid mewn llai na thri mis i'w gilydd.
W. J. Williams.