ROBERT HUGHES. CHICAGO, COOK COUNTY, ILLINOIS.
Bu farw y brawd Robert Hughes uchod yn ei gartref, 4532 Clifton Avenue, ar y 25ain o Chwefror. Cafodd gystudd maith a chaled, yn enwedig y chwe mis diweddaf cyn ei alw i'w gartref fry.Er ym- drechu i gael adferiad iechyd trwy pob dyfais feddygol, ildiodd i fyned o dan operation un tro, wedi hyny bu yn Denver, Colorado, ond ofer fu yr oll. Yr oedd y clefyd wedi gafael mor dyn yn ei gyfansoddiad, fel nad oedd modd ei achub. Dyoddefodd y cyfan yn hynod o dawel a dirwgnach.
Yr oedd yn bleser bod yn ei gwmni i wrando arno yn siarad am y byd ysbrydol; yr oedd yn cael gweledigaethau gwerth eu hadrodd a'u cofio.
Cafodd angladd hynod o barchus, ddydd Sadwrn canlynol, y trefniadau i gyd yn llaw y Gymdeithas Iforaidd, o ba un yr oedd yn aelod parchus er's blynyddau. Gwasanaethwyd yn y ty a'r capel, Humboldt Park, ac ar lan y bedd gan y Parch. T. O. Jones, yn cael ei gynorthwyo gan Mr. Robert Lewis, uwchlywydd y Gymdeithas Iforaidd. Siaradodd y ddau yn hynod o effeithiol; Mr. Jones wedi bod yn gofalu am ein heglwys er's blwyddyn a haner bellach, ac wedi cael cyfle i ddod i adnabyddiaeth a'r ymadawedig, ac wedi bod yn ei gwmni yn ei oriau olaf; Mr. Lewis drachefn wedi ei fagu yn yr un ardal yn Nghymru, ac wedi bod yn gyfeillion. Tystiolaeth y ddau ydoedd ei fod yn Gristion da, gyda chalon fawr a charedig.
Ganwyd ein gwrthrych yn Caernarfon, Gogledd Cymru, 42 mlynedd yn ol. Teiliwr ydoedd wrth ei alwedigaeth, a bu yn ngwasanaeth Bayne and Dargie, Bangor, Gogledd Cymru, am flynyddau. Yr oedd hefyd yn gampwr gyda'r bel droed, a pherthynai i'r clwbiau uchaf yn Bangor a Chaernarfon.
Daeth i Chicago yn 1910, a diameu y buasai wedi gweithio ei hun i fyny i swydd uchel pe bai ei iechyd wedi caniatai.
Mae cydymdeimlad yn gyffredinol a'i hoffus briod yn ei hiraeth a'i phrofiad dwfn. Gadawodd hefyd i alaru ar ei ol, ei fam, sef Mrs. Catherine Hughes, 24 Hole-in-the-Wall, Caernarfon, Gogledd Cymru, ac un brawd, Richard, yn Bangor, Gogledd Cymru; ei dad wedi ei ragflaenu i'r ochr draw i'r llen. Cymerodd ei dad, pan yn ddyn ieuanc, ran yn y frwydr fawr, y Rhyfel Gartrefol. Nawdd y nef fyddo dros ei briod yma, a'i deulu yn yr Hen Wlad, yn eu profedigaeth chwerw.
William Ishmael Jones.