ROWLAND HUGHES. BOSTON, MASSACHUSETTS.
"Mae angeu fel medelwrA'i gryman llym mewn llaw,
Pan elo i'r maes i fedi,
Mae'n rhoddi bro mewn braw;
Mae ar y maes er Adda,
A medi wna o hyd,
A gorphwys nid oes iddo
Nes medi'r maes i gyd."
Yr uchod sydd hen benill, cywirdeb pa un a ategwyd pan ddaeth angeu gan ddiosg ei gleddyf o'r wain a lledaenu cwmwl o alar a phrudd-der dros ffurfafen y cylch Cymreig yn Boston a'r cyffiniau, drwy fedi o'n plith gyda sydynrwydd y brawd hawddgar, Rowland Hughes, 94 Goddard Street, Quincy, Massachusetts. Goddiweddwyd ef beth amser yn ol a rhyw fath o anhwyldeb yn yr ystumog, yr hyn a alwyd gan y meddygon yn abcess, yr hyn a barodd bryder mawr iddo, a gwaethygodd i'r fath raddau fel y barnodd y meddygon mai'r unig obaith am ei adferiad ydoedd myned o dan driniaeth lawfeddygol, a chyflawnwyd hyny arno yn y Quincy Hospital, ddydd Llun, Mehefin 2ail. Yn ol pob ymddangosiad, aeth drwy y driniaeth yn foddhaol, a choleddai y meddygon obaith mawr am ei adferiad; ond brydnawn yr un dydd, daeth cyfnewidiad er gwaeth i'w hanes, ac yn sydyn ymwelodd arch-elyn marwolaeth, a phan y daeth
"Ni edwyn neb ei nodau
Na swn ei droed yn neshau,"
ac am haner awr wedi pump, ehedodd ei enaid ymaith yn dawel at yr Hwn a'i rhoes.
Anhawdd ydyw gan ei hoffus briod, ei unig frawd, perthynasau, a'i luosog gyfeillion ydyw sylweddoli y ffaith fod Rowland Hughes wedi cael ei gymeryd ymaith o'n plith mor annysgwyliadwy, gan ei fod fel arferol yn alluog i ofalu am ei fasnach, a mwynhau ei hun yn ein plith hyd y dyddiau olaf, yr hyn sydd dystiolaeth mor ansicr ydyw bywyd, hyd yn nod yn mysg y cadarnaf o honom.
Ganwyd Rowland yn Bethesda, Gogledd Cymru, 47 mlynedd i'r diwrnod ag yr ysgrifenir y nodion hyn am ei farwolaeth, sef Mehefin 8fed, 1872. Mab ydoedd i'r diweddar Rowland a Sarah Hughes, Gerlan, Bethesda. Yr oedd ei dad yn adnabyddus iawn yn mhlith chwarelwyr y Penrhyn, yn flaenor ac yn arweinydd y gan yn eglwys y Methodistiail Calfinaidd yn y Gerlan. Cafodd y fraint o ymweled a'i feibion, Rowland a Samuel, yn Quincy, a gofidus oedd gan y ddau fab dderbyn y newydd am ei farwolaeth ychydig dros flwyddyn yn ol. Drwy ei farwolaeth amddifadir darllenwyr y "Drych" o'i nodion pert yn rhoddi i ni yn ami hanes ardalwyr Bethesda ac amgylchiadau chwarelwyr y Penrhyn.
Cyfnither i'r ddau fab yma ydyw Elizabeth J. Williams (Awen Mona), merch i chwaer ei tad, Penlan, Dwyran, Mon; awenyddes fedrus ag a gyfansoddodd delynegion gydag ysbryd y "peth byw" ynddynt i'w canfod mewn cyfrol dlws o dan y penawd "Cyfrinach y Dyffryn" a "Throion yr Yrfa."
Ymfudodd Rowland i'r wlad hon yn y flwydddyn 1892, a daeth yn uniongyrchol i Quincy, ac o ganlyniad i'w brofiad o naddu ceryg yn chwarel y Penrhyn, anturiodd i ddysgu naddu beddfeini o ithfaen (granite) yn Quincy. Addysgodd y gelfyddyd yn gyntaf gyda y Cymro pybyr John R. Walters, perchenog yr Aberogwen Monumental Works, ac wedi hyny bu am ysbaid o ddeng mlynedd yn ngwasanaeth y masnachwyr eang Swingle a Faulkner yn tori llythyrenau ar fedd-feini, hyd nes y teimlodd yr hen ddywediad yn dyfod yn fwy gwirioneddol i'w feddylfryd, "Nothing ventured, nothing gained:" canlyniad yr hyn fu iddo, 17 mlynedd yn ol, yn gysylltiedig a chyfaill iddo o'r enw Andrew Johnson, anturio mewn masnach eu hunain, ac adnabyddir y cwmni wrth yr enw Hughes and Johnson, ac y maent heddyw y cwmni eangaf yn y gangen hon o fasnach yn Quincy.
Bu Rowland hefyd yn ffodus ychydig dros 20 mlynedd yn ol o ddewis cydmar bywyd sylweddol a hapus yn mherson Mary Ellen, unig ferch y diweddar Mr. a Mrs. Owen J. Owens, Fair Haven, Vermont, teulu adnabyddus yn yr ardal hono - ei thad yn un o berchenogion y Scotch Hill Slate Co., ac yn flaenllaw iawn yn nghapel M. C. yn Fair Haven; a'i mam yn ferch i Richard Williams. 'Rhen Ffactri, Corris, Sir Feirionydd, ac yn blethedig a theulu hynod Maesybwlch, ac am ba rai y rhydd y diweddar Barch. Griffith Ellis, M. A.. Bootle, sylw arbenig iddynt yn ei gyfrol ar "Hanes Methodistiaeth Corris," fel sylfaenwyr achos crefydd yn Nghorris.
Yn hanes bywyd Rowland a Mary, anhawdd fuasai dod i gyffyrddiad a dau ag ydoedd yn byw bywyd mor hapus ac anwylaidd.
"Yn nolen aur anwylaidd - dau asiwyd
I oesi mewn symledd;
Uno dau o'r un duedd
Ar hynt oes sydd warant hedd."
Cynaliwyd y gwasanaeth angladdol y dydd Iau canlynol. Cymerwyd gofal o'r gwasanaeth yn y ty gan y Parch. J. Wynne Jones, Swansea, Massachusetts, yntau yn enedigol o Bethesda, ac yn gydnabyddus. iawn a'r teulu. Wedi y gwasanaeth yn y ty, awd a'i gorff i'r Bethany Congregational Church yn Quincy, lle yr oedd yn aelod eglwysig, a chynaliwyd gwasanaeth angladdol yno, y Parch. J. Wynne Jones yn cymeryd rhan yn gyntaf, yn cael ei ddylyn gan aelodau o'r Quincy Commandery, Knight Templars. Canwyd yn ystod y gwasanaeth, "Beth sydd i mi yn y byd." Yr oedd y dyrfa a ddaeth yn nghyd y dydd hwn i'w angladd yn arwydd gref o'r parch a'r edmygedd a goleddwyd tuag ato, ac yr oedd y lluosog flodau o wahanol barthau yn addurno ei arch yn dwyn tystiolaeth o safle Rowland yn mynwes ei gyd-ddynion, ac enwn yn unig flodeudyrch oddiwrth Gymdeithas Cymrodorion Boston a'r cyffiniau, o ba gymdeithas yr oedd yn aelod ffyddlawn a gweithgar; a hefyd oddiwrth y Rural Lodge of Masons; Quincy Commandery, Knight Templars; Boston Council, Royal Select Masters; Aleppo Temple, Mystic Shrine - cymdeithasau ag oedd yr ymadawedig wedi dringo i safle uchel ynddynt.
Gwasanaethwyd fel arch-gludwyr gan Evan Lloyd Evans, John W. Davies, John G. Roberts, William H. Parry, Fred Mc-Morron a Mr. Faulkner. Yr oedd yn galondid i'w anwyl briod fod ei brodyr mor agos ati ar yr amgylchiad prudd yma; John T. Owens a'r teulu, gynt o New York City; William, ei hunig fab, ac Owen Madoc Owens a'r teulu, gynt o Rutland, Vermont, yr oll yn awr wedi ymsefydlu yn Quincy, ac mewn swyddi cyfrifol yn y Fore River Shipbuilding Works. Brawd arall iddynt ac y carem ei weled ar yr amgylchiad hwn ydoedd Fred Owens a'i briod, pa rai sydd yn awr yn trigianu yn St. Petersburg, Florida, ond yr oedd pellder ffordd yn ei amddifadu o ddod i dalu y gymwynas olaf i Rowland ag oedd mor hoff ganddo.
Dodwyd ei weddillion i orwedd yn mynwent Mount Wollaston, wrth ochr lluaws o'i gydgenedl ag a adwaenai yn dda yn eu dydd, pa rai sydd eisoes yno yn gorwedd yn llonydd yn eu hamdo. Cymerwyd rhan eto wrth y bedd gan y Parch. J. Wynne Jones, ac unwyd mewn canu "Gwaed y Groes,"
Bu Rowland Hughes fyw bywyd heddychlawn, gydag ymostyngiad efengylaidd yn ei ewyllys, a heddwch dianaf yn ei gydwybod, a gwir dduwioldeb yn ei fynwes, yn cydweithio yn hollol a'r bywyd ag yr hyfrydai drigianu ynddo yn y byd tragwyddol. Estyn y Cymry yn gyffredinol eu cydymdeimlad llwyraf a'i anwyl briod, Mary Ellen, a'i unig frawd, Samuel, yn eu galar o golli o'u golwg un ag oedd yn anwyl iawn ganddynt, ac ymddengys fod "Awen Mona," cyfnither yr ymadawedig, yn barod wedi dadgan teimladau presenol ei anwyl briod yn ei thelynegion, o dan y penawd "Hiraeth Serch," yn y geiriau:
"Dyma'r man 'rwy'n rhodio beunydd,
Dan y derw, ger y lli;
Ail fyw'r oriau melus hyny
Dreuliais yma gyda thi;
Galw'n ol dy eiriau serchog,
Teimlo'th gusan ar fy min;
Deffro eilwaith, sylweddoli
Nad oes yma ond fy hun."
Gan D. Lloyd Evans