JANE J. HUMPHREYS WILLIAMS. NEWTON, SUSSEX COUNTY, NEW JERSEY.
Ebrill 28ain, 1919, bu farw o'r pneumonia, Mrs. Jane Williams, Flushing, New York.Merch ydoedd i Mr. Richard a Mrs. Lydia Humphreys, Bethesda, Gogledd Cymru. Yr oedd yn un o deulu lluosog, ac o'r cyfryw nid oes yn aros ond dau frawd a dwy chwaer, Mrs. Ellen Hughes, Llanfairfechan; Mr. R. Humphreys, Bethesda, Gogledd Cymru; Mrs. Mary Jones, Deerfield, a'r Parch. John F. Humphreys, Ithaca, New York.
Flynyddau lawer yn ol ymfudodd yr ymadawedig i'r wlad hon, gan ymsefydlu yn Lafayette, New Jersey, lle bu farw ei phriod, Mr. Josiah J. Williams a thri o'u plant. Cartrefai Mrs. Williams gyda'i mab, Mr. John J. Williams a'i merch, Mrs. David Jones, Flushing, New York, y rhai sydd heddyw yn eu galar ar ol mam anwyl, a nain dyner.
Cafodd angladd anrhydeddus. Yr oedd y rhosynau drudfawr a'r blodau amryliw yn tystio am safle barchus yr ymadawedig yn y ddinas.
Daearwyd yn mynwent Newton, New Jersey. Daeth llu o berthynasau a chyfeillion o bell ac agos i'w hangladd, ac yn eu mysg ei brawd, y Parch. J. F. Humphreys o Ithaca, N. Y., yr hwn a gyflwyna a ganlyn, megys blodyn ar ei bedd:
Ar ol chwaer, loew ei chalon-aeth adref
Mewn gwth oedran weithion;
Yn nwyfeidloes nefolion
I'r wlad well ar alwad Ion.
(Dymunir i bapyrau Cymru godi yr uchod).