ANNA GRACE JONES. LIME SPRINGS, HOWARD COUNTY, IOWA.
Brydnawn Mawrth, Mawrth 11eg, cymerodd claddedigaeth Mrs. William W. Thomas, Clear Lake, Wisconsin, le. Gwasanaethwyd yn yr addoldy Cymreig gan y Parch. D. Edwards, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. G. M. Shoemaker. Claddwyd yn mynwent Pleasant Hill.Enw morwynol y chwaer uchod ydoedd Anna Grace Jones. Ganwyd hi, Chwefror 19eg, 1846, yn ardal Bethel, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.
Ymunodd mewn priodas a'r diweddar Mr. William W. Thomas yn 1868. Ganwyd iddynt naw o blant, o ba rai y mae chwech yn fyw, sef Mrs. Lizzie Conley, Sisseton, South Dakota; Mrs. Anna Harina, William S. ac Owen A., Clear Lake; David W. Thomas, St. Peter, Minnesota; John W. Thomas, Deer Park, Wisconsin, yr oll o honynt yn bresenol yn ei chladdedigaeth.
Symudodd y teulu i'r wlad hon yn 1883, gan wneyd eu cartref yn benaf ar fferm gerllaw y pentref hwn hyd 1914. Bu Mr. a Mrs. Thomas am ysbaid byr yn cartrefu yn ardal Coed Mawr, Minnesota. Flynyddau olaf gwnaethant eu cartref yn Clear Lake.
Gorphenaf 10fed, 1917, bu farw ei hanwyl briod, a chladdwyd ef yn mynwent Pleasant Hill, Lime Springs.
Yr oedd Mrs. Thomas yn wanaidd ei hiechyd er's blynyddau. Cafodd ymosodiad o'r pneumonia, yr hwn derfynodd yn angeuol. Da genyf gyflwyno tystiolaeth y perthynasau parthed ei hysbryd ymostyngar, ei gafael ffyddiog yn addewidion yr Efengyl, a'i bod wedi cyfarfod a'r cyfnewidiad mawr gan ymddiried ei hunan yn llwyr i ofal Iesu Grist fel unig Geidwad pechaduriaid. Hunodd yn dawel, foreu Sadwrn, Mawrth 8fed, yn nghartref ei merch, Mrs. Harina, a'i phriod.
Gan D. Edwards.