CATHERINE JONES. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Ychydig wedi haner nos, nos Sul, pan oedd Rhagfyr yn agor ei ddorau, bu farw y chwaer dawel, garedig a duwiol hon, yn 52 mlwydd a naw mis oed, wedi dyoddef cystudd blin am yn agos i 18 mlynedd.

Ganwyd yr ymadawedig yn Ebenezer, Arfon, a merch ydoedd i Mr. a Mrs. Richard Jones, New Street, blaenor gynt gyda'r Wesleaid yn y Tabernacl, Ebenezer. Pan oedd Mrs. Williams yn ieuanc, arferai weinyddu gyda'r Parch. William Rowlands, Cefn-y-waen, a chyda ei blant wedi hyny.

Ymbriododd gyda Mr. Thomas Ll. Williams oddeutu 28 mlynedd yn ol yn Caernarfon, Gogledd Cymru. Yn fuan ar ol hyn, ymfudasant i'r wlad hon, gan ymsefydlu yn Arvonia, Virginia. Wedi aros yno oddeutu tair blynedd, daeth i'w bryd symud i Granville, New York, lle y treuliasant dros 16 o flynyddau. Yn yr argyfwng llechfaol 1916, symudasant i Hastings-on-Hudson, New York, ac ar anogaeth gref y meddyg yno, symudasant i Utica tua blwyddyn yn ol. Ond er pob gofal a symud ar ei rhan gan ei phriod caredig a gofalus, angeu a orfu, a chredwn yn ddibetrus oddiar yr adnabyddiaeth o honi tra yma yn dyoddef, ei bod wedi cael newid er gwell. Pethau a berthynant i deyrnas Dduw oedd ei holl oglud, yn enwedig emynau ac adnodau.

Ni frysia'r neb a gredo
Yn nydd y storom gref,
Mae'r angor yn ddyogel
Ar graig addewid nef;
I'r glyn heb frys na phryder,
Nac ofnau o un rhyw,
Wynebodd hon yn dawel-
Bu farw fel bu fyw.

Gadawodd i alaru ar ei hol, ei phriod, Thomas Ll. Williams; ei merch, Mrs. Evan Lewis; a Myfyr, y mab; tri o frodyr, John yn Lee Park, Pennsylvania; a dau yn Ebenezer, Arfon; a phedair o chwiorydd, dwy yn y wlad hon, un yn Rome, N. Y., a'r llall yn Granville; a dwy yn Hen Golwyn, Gogledd Cymru.

Tad yr amddifaid a Barnwr y gweddwon fydd yn arweinydd ac yn ddyddanydd i'r teulu trallodus. Cymer yr angladd (preifat) le boreu dydd Iau am 11 o'r gloch.
Moelrydd.

Bawb sy'n llwythog a blinderog,
Deuwch ataf fit, medd Ef;
Gorphwys gant ar ol cystuddiau
Yn nhawelwch clyd y nef;
Hyfryd oedd i'n chwaer gystuddiwyd
Flwyddi lawer yn y byd
Gael ymfudo draw o'r diwedd
Lle mae pawb yn iach o hyd!

Pererines fu'n dyoddef
Ar ei hir flinderus daith;
Caled fu yr anial iddi-
Ar ddiffygio lawer gwaith;
Ond ei ffydd a'i daliai 'fyny;
Mwyn a siriol oedd bob dydd;
Dysgwyl oedd am wawr y boreu
Pan y'i rhoid o'i rhwymau'n rhydd.

Er mai llesg oedd drwy'r blynyddau,
Eto'r oedd yn gydmar cu;
Fe wel Tom hi'n unig hebddi
Pan yn troedio'r anial du;
Tywyll fydd yr aelwyd hebddi;
Gwag y cartref clyd di nam;
Bydd rhyw adgof a rhyw hiraeth
Mud yn aros heb y Fam!

Y Drych ~ Rhagfyr 4ydd, 1919.


CATHERINE JONES. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Cymerodd angladd y ddiweddar chwaer uchod ag yr ymddangosodd ei darlun a'i chofiant yn y "Drych" diweddaf, le am 11 o'r gloch foreu ddydd Iau, Rhagfyr 4ydd. Angladd annghyoedd ydoedd. Gwasanaethwyd yn hynod effeithiol gan ei gweinidog, y Parch. John Davies, D. D.

Dyoddefodd ein chwaer gystudd poenus am gyfnod maith o ddeunaw mlynedd yn hynod o dawel a siriol. Un o'i hoff emynau allan o luaws eraill oedd:

Mae arnaf eisieu sel
A chariad at dy waith, a.y.,

ac fel y sylwodd ei gweinidog, yn ddiameu mai un rhan arbenig o'i gwaith hi yn nglyn a'r deyrnas oedd dyoddef; ie, a gallodd ymgymeryd a'r rhan ordeiniwyd iddi.

Nid rhag ofn y gost a ddel
Nac am y wobr chwaith,

ond er gogoniant i'r Hwn a'i prynodd ac a'i dodes ei hun drosti. Bron na ddywedwn mai y gras tawel a dystaw hwn, dyoddefgarwch, oedd yn ein taro fwyaf amlwg yn ei chystudd.

Fel y dywedwyd o'r blaen, cafodd ei geni a'i magu yn ardal Ebenezer, Arfon, ar lechweddau Waen Cynfl; hen ardal a ddyoddefodd erledigaeth a gorthrwm gwladol a chrefyddol am genedlaethau. Y mae y gallu naturiol i ddyoddef ynddo ei hun yn hardd; ond pan y mae y gallu naturiol hwnw wedi ei santeiddio a gras, ac ag argyhoeddiadau moesol dyfnion yn yr enaid, y mae yn rhywbeth dwyfol.

Y geiriau olaf ddiferodd dros ei gwefus oedd:

Dysgwyl 'rwyf ar hyd yr hir-nos,
Dysgwyl am y boreu ddydd;
Dysgwyl clywed pyrth yn agor,

a phan oedd dorau Rhagfyr yn agor megys, yr oedd ei henaid hithau yn cael ei ollwng o'r babell fregus o glai ac yn myned i fewn i'r lle nad oes na phoen, nac ochain, na galar, a lle nis dywed y preswylwyr, "claf ydwyf." Yr ydym yn teimlo fel dweyd yn ngeiriau Dewi Arfon:

Delw Iesu yn dlyswaith - yma wisgodd
Yn mysg rhai anmherffaith;
Llwch haul llewyrcha eilwaith
Yn berl Crist hel arliw craith.

Rhoed ei gweddillion i orwedd yn mynwent Forest Hill. Yr archgludwyr oeddynt: J. R. Jones, Ellis H. Williams, Hugh H. Jones a David Jones.

Dymuna y teulu gydnabod yn wir ddiolchgar yr amlygiadau neillduol o gydymdeimlad ddangoswyd tuag atynt o bell ac agos, yn nghyd a'r blodeudyrch heirdd anfonwyd.
Cyfaill.

Y Drych ~ Rhagfyr 11eg, 1919.