HARRY O. JONES. HANOVER, LUZERNE COUNTY, PENNSYLVANIA.

HARRI O WYNEDD YN El FEDD

Ie, ddarllenydd, y per denorydd yn ei fedd! Aeth efe a'i briod ddydd o flaen y Nadolig ar ymweliad a'u merch, Mrs. Llewelyn, yr hon sydd yn byw yn Bethlehem, Pennsylvania, a chymerwyd ef yn glaf bron wedi iddynt gyraedd yno. Mae yn debyg mai y pneumonia oedd arno. Meddyliwyd y buasai yn gwella unwaith, ond cafodd ail ymosodiad, a bu farw am haner awr wedi pedwar, foreu Ionawr lOfed. Cyrchwyd ei wedd- illion i Ashley, Pa., a chladdwyd ef yno, Ionawr 13eg, a chafodd angladd tywysogaidd.

Gwasanaethwyd yn eglwys Ashley gan chwech o weinidogion, sef y Parchn. E. Mona Jones a H. W. Griffiths, Plymouth; John Rhiwen Williams, Kingston; R. R. Davies a T. London Jones, Wilkes-Barre; a W. H. Williams, Warrior Run, yr oll yn siarad yn rhagorol, ac yr oedd rhywbeth yn effeithiol anghyffredin yn y canu, o dan arweiniad Thomas Jones, South Wilkes-Barre. Mae y brawd Mr. Jones yn ffyddlon iawn pan mae galwad; ac hefyd wrth y berdoneg yr oedd Miss Miriam Williams (Eos Shawnee). Mae hithau yn hynod am gynorthwyo pan fydd angen. Yr oedd y gan wedi tewi, ac felly yr oedd yn rhaid cael cynorthwy o rywle. Diolch i bawb a gymerasant ran i dalu y gymwynas olaf i un o brif denorwyr dyffryn y Wyoming am dri deg ac wyth o flwyddi.

Ysgrifenir yn lled gryf ar ol y meirw ambell waith, ond teimlwyf nad wyf yn dweyd gormod yn y fan hon. Mab ydoedd ein gwrthrych i Owen Jones, "Rhos Ddu," a'i briod, Cwmyglo, Arfon. Yr oedd ei dad yn fwy adnabyddus wrth yr enw Owen Rhos, ac yr oedd Harri, pan yn fachgen, ac ar hyd ei oes hefyd, o ran hyny, gan ei gyfoedion, yn cael ei adnabod wrth yr enw Harri Craig y Don.

Pan yn lled ieuanc, aeth i chwarelau Llanberis i weithio, ac yn ddiweddarach aeth i Birkenhead, Lerpwl, i ddysgu gwaith saer coed, gyda'i frawd-yn-nghyfraith, sef William Parry, yr arweinydd corawl enwog, ond mae yn debyg nad arosodd yn hir yno, ac iddo ddychwelyd adref. Pan yn ddwy-ar-bymtheg oed, deallwyd fod ganddo lais tenor rhagorol, ac ni wyddai efe ei hun ei fod yn gallu canu o gwbl; ac wrth fyned heibio, goddefer gair o gyngor. Mae rhieni yn rhy dueddol o lawer, pan y gwelant arwyddion canu yn eu plant. Mae arnynt eisieu i bawb ddaw i'r ty eu clywed yn canu, a'r canlyniad fydd, pan y deuant i oedran canu, y byddent heb ddim lleisiau. Gadawer iddynt gael llonydd i ymddadblygu.

Mae yn debyg iddo briodi yn lled ieuanc a Laura, merch Adwyrddeugar, Llanrug. Yr oedd yn enill poblogeiddrwydd fel canwr, a chafodd y ffug enw, sef Harri o Wynedd. Yn un o Eisteddfodau Cymru. cafodd gynyg myned i'r Royal Academy, Llundain, ond yr oedd wedi dechreu myned i deulu, ac felly nid oedd yn gallu gweled ei ffordd yn glir, ac yn y fan yma y collodd efe y ffordd, pan y gallasai enill safle fel Ben Davies, Eos Morlais neu H. Evan Williams.

Bu am rai blynyddau yn Penmaenmawr, ac oddiyno, pan tua saith-ar-hugain oed, y daeth i'r wlad hon, gan ymsefydlu yn Ashley, Pennsylvania. Wedi rhai blwyddi, symudodd i Sugar Notch, a bu yno am dymor maith fel fire boss, ac yn cael arian da, ond cafodd brofedigaeth lem iawn yno trwy golli mab, Owen Henry, yn ganlyniad i ddamwain yn y gwaith glo. Bu agos i'r ddau suddo yn y brofedigaeth hon, ond cawsant nerth, a bu blynyddau o lwyddiant arnynt wedyn; ond pan yn nghanol eu hapusrwydd, flynyddau wedi hyn, cymerasant eu perswadio i fyned at berthynasau a chyfeillion i agor chwarel yn Poultney, Vermont, ond y canlyniad fu, wedi bod yno am rai blwyddi, oedd dod yn ol i Ashley wedi cael colled fawr, ond cafodd efe le fel assistant boss, hyd nes y torodd ei iechyd i lawr rai blwyddi yn ol; ond yr oedd yn cael pension da o hyny hyd ei farwolaeth.

Yr oedd yn ddiacon yn Ashley, ac yn arweinydd y canu. Fel canwr, byddai yn canu y caneuon caletaf bob amser, yr aruthrol fel rheol; ond pan yn cael encore, canai ganeuon bychain, melus, nes toddi'r gynulleidfa. Ni chlywais fawr neb yn gallu gwefreiddio cynulleidfa yn fwy nag efe: Morlais oedd ei ganwr, ac nid oedd wiw son am neb arall. Nis gallai oddef "comic songs" - canu er mwyn gwneyd i'r bobl chwerthin. Yr oedd yn syniad rhy isel ganddo.

Tua 25 a 35 o flwyddi yn ol, canasom lawer gyda'n gilydd. Bu raid i mi roddi heibio, ond daliodd efe hyd y diwedd. Dywedwyd yn ei angladd, mai un o'r pethau diweddaf a ddywedodd cyn marw oedd adrodd yr hen benill hwnw:

O, Dduw, rho i'm dy hedd
A golwg ar dy wedd,
A maddeu'n awr
Fy meiau mawr
Cyn 'r elwy' lawr i'r bedd.

Gadawa ar ei ol, briod, tair merch, a dau fab; yr oll yn briod, ac un mab yn Ffrainc wedi ei glwyfo. sef Hasting. Heddwch i lwch y per denorydd, Harri o Wynedd.
Gan Jabez M. Williams

Y Drych ~ 30ain Ionawr 1919.


HARRY O. JONES. HANOVER, LUZERNE COUNTY, PENNSYLVANIA.

Ionawr 15, 1919 - Chwith fydd i ddarllenwyr y "Drych," a llu cyfeillion ar hyd a lled y wlad hon a'r Hen Wlad, ddarllen fod y brawd anwyl, Harry O. Jones (Harri o Wynedd), yn ei fedd; dyn ag y bydd colled fawr ar ei ol mewn llawer cylch, yn enwedig gylch y teulu, a'r teulu bach yn Eglwys Iesu Grist yn Ashley, o'r hon yr oedd yn aelod a diacon ffyddlawn a gweithgar, ac yn enwedig fel canwr.

Melus iawn fyddai cael ambell i solo effeithiol ganddo yn ein cyrddau crefyddol. Byddai bob amser mor barod. Bu farw pan oddi cartref. Aeth efe a'i briod i dreulio y Gwyliau i dy eu merch sydd yn Bethlehem, Pennsylvania, lle y cymerwyd ef yn beryglus glaf o'r pneumonia dranoeth ar ol y Nadolig; a Ionawr y l0fed, ehedodd ei ysbryd i ogoniant o'i boenau gyda dweyd y penill hyn: "O, Dduw, rho i'm dy hedd, a golwg ar dy wedd."

Yr oedd yn deisyfu ac yn gobeithio yn fawr cael byw nes gweled ei anwyl fab, Hastings, yn ol o Ffrainc, ond myned oedd raid pan ddaeth yr alwad, heb weled Hastings bach oedd mor anwyl ganddo. Ond cafodd law Un mwy na neb i groesi y glyn.

Ni chymeraf ofod y "Drych" i ymhelaethu am y brawd, gan yr wyf yn gwybod bydd i rai o'i gyfeillion ysgrifenu eto yn llawer gwell; Jabez M. Williams, yn hen gyfaill iddo er's blynyddau, ac wedi canu a chynal cyngerddau lawer gyda eu gilydd; ond oddiar ddydd yr angladd ddim yn hwylus o ran ei iechyd. Gobeithiwn y caiff wella yn fuan, a bod mewn hwyl i ysgrifenu a barddoni.

Mae yn aros ar ol yr ymadawedig, ei briod, tri mab, a thair merch: William yn Allentown; David yn Detroit; Mrs. T. Llewelyn yn Bethlehem; Mrs. Thomas Roberts yn Vermont; Mrs. Harry Williams yn Long Island; a Hastings yn Ffrainc.

Yr archgludwyr oeddynt: H. R. Jones, David Richards, David R. Roberts, Thomas Owens, Robert Jones a John Griffith. Yn cario y blodau, y rhai oedd luosog: Thomas Llewelyn a John Williams. Nerth gaffo yr holl deulu ar ol priod a thad gofalus a thyner; yn enwedig y bachgen sydd yn Ffrainc, a gaiff y fath siomedigaeth pan ddaw yn ol.
Gan Mair Llechid.

Y Drych ~ 30ain Ionawr 1919.