JOHN D. JONES. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Nos Fercher, Rhagfyr 10fed, bu farw John D. Jones, 128 Eagle Street, ar ol cystudd maith dan anhwylder y chwysigen. Ni aeth yn ddrwg hyd o fewn 10 niwrnod i'w farwolaeth, pan y symudwyd ef i ysbyty i fyned dan driniaeth, lle y bu farw. Treuliodd lawer o flynyddoedd ar y mor, ac ymwelodd a phob rhan o'r byd.

Ganwyd ef yn Towyn, Gogledd Cymru, Medi 13eg, 1848, yn fab i Dafydd ac Elizabeth Jones. Cyn ei fod yn 12 oed, yr oedd yn gabanwr ar fwrdd llong; ac yn ystod yr amser y bu yn forwr, cafodd brofiad amrywiol. Yn 1867, gadawodd y mor, a dychwelodd i Gymru, lle y dysgodd yr alwedigaeth o baentiwr gan ei ewythr, Ifan M. Jones, yn Mhontfaen, D. C. Oddiyno aeth i Loegr am beth amser, ac yn ddiweddaf, croesodd i'r wlad hon.

Daeth i America yn Mai 10, 1871, ac ar ol aros yn New York a Scranton, Pennsylvania, am flwyddyn neu ddwy, cyraeddodd Utica, lle yr aeth i weithio i George Bullock, ac yn mhen dwy flynedd, aeth i San Francisco, lle y gweithiodd am saith mis ar y Palace Hotel. Yna dychwelodd i Utica.

Yr oedd Mr. Jones yn weithiwr medrus a gonest, a gofynai pobl am dano yn arbenig pan am waith da. Cafodd gryn brofiad mewn paentio clochdai eglwysi, a phaentiodd glochdy Westminster, a chynorthwyodd i godi y groes ar bigdwr eglwys Grace. Hefyd, paentiodd glochdy eglwys Tabernacl droion, ac eglwysi eraill. Yr oedd yn aelod o undeb y paentwyr, Lleol, Rhif 89.

Mewn gwleidyddiaeth, Gwerinwr ydoedd. Yn 1875, ymunodd a Chymdeithas yr Iforiaid, a gwasanaethodd fel llywydd ac is-swyddau eraill. Yn 1873, daeth yn aelod o eglwys Bethesda (A); ac oddiar 1890, yr oedd yn un o'r ymddiriedolwyr. Nid oedd neb yn mhlith Cymry Utica yn fwy adnabyddus na John D. Jones. Aeth yn ol i Gymru ar ymweliad yn 1881, ac eto yn 1891.

Rhagfyr 3ydd, 1873, ymbriododd ag Elizabeth Ann Ellis, yr hon a adewir. Ei frawd oedd Wm. Hughes Jones, o gwmni argraffu y Cymric, yr hwn a fu farw flynyddau yn ol.

Y Drych ~ Rhagfyr 18fed, 1919.