KATE J. WILLIAMS. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Marwolaeth Cymraes Barchus.

Yn nghartref yr Hen Foneddigesau yn Faxton Street, lle y bu yn trigianu am y pum mlynedd diweddaf, bu farw Mrs. Kate J. Williams.

Gwanaidd iawn a fu er mis Mai diweddaf, fel nad oedd yr alwad ddiweddaf yn annysgwyliadwy. Marw o henaint teg a wnaeth.

Ganwyd hi yn Llanfrothen, Sir Feirionydd, Gogledd Cymru, Hydref 18fed, 1838, yn ferch i Richard ac Anna Jones. Bu farw ei thad pan oedd hi yn ddwy flwydd oed, ac yna symudodd ei mam i Tanygrisiau. Yn 1846, daeth ei mam a hithau, gyda Mrs. Sidney M. Williams, Utica. i'r America; y fordaith yn cymeryd tair-ar-ddeg o wythnosau, mewn llong hwyliau. Glaniodd yn Boston, a daethant yn union i'r ddinas hon, gan deithio rhan o'r ffordd ar yr Erie Canal.

Am beth amser gwnaeth ei chartref gyda'i pherthynasau yn Charles St. Nid oedd Utica, yn 1848, ond rhyw bentref bychau gydag ychydig ystrydoedd yn rhan isaf y dref. Pan oedd hi yn bymtheg oed, bu farw ei mam.

Priododd yn 1864, Elias Williams, o Rome, ac aethant ar eu mis mel i New York, lle yr ymwelsant a'r Central Park, newydd gael ei agor. Meddianai a gweithiai ei gwr felin goed yn Forestport, ac am beth amser yno y bu yn cartrefu. Yn 1865, gwasgwyd ei phriod yn angeuol rhwng coed toredig ar yr afon. Gadawyd Mrs. Williams gyda'i geneth fach yn weddw.

Bu farw hon, Lila E. Williams, yn 27 mlwydd oed. Yr oedd Mrs. Williams yn chwaer i'r Parch. W. R. Jones, Goleufryn, gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Nghaergybi a Chaernarfon, Gogledd Cymru. Yr oedd efe yn un o lenorion goreu Cymru. Nid ydys yn sicr, ond pan ymddangosodd ysgrifau yn y "Genedl," yn watwareg fyw o rai o ddiffygion y Cyfundeb, gan rym a bywiogrwydd eu gwerth llenyddol, teimlid nad oedd neb i fod yn awdwr iddynt ond Goleufryn.

Diau fod llawer yr ochr yma i'r dwr yn cofio llifeiriant ei hyawdledd yn ei bregeth ar "Esgyniad Crist." Fel ei chwaer, yr oedd yntau yn fyw i gyd hyd y diwedd. Gyda'r Wesleaid yr oedd Mrs. Williams yn aelod, a chu iawn fydd ei choffadwriaeth yn eglwys South Street, ac yn mhlith ei nithoedd a'i naiod: Robert R. Williams, Northampton, Mass.; Trevor D. Jones, Elmira; Mrs. Annie R. Williams, Mrs. Marietta Jones a Mrs. Helen Woolsey, Utica; Mrs. Sarah Bliss, Springfield, Mass.; a Miss Lillian M. Williams, Boston, Mass., a gorneiod a gornithod.

Y Drych ~ Chwefror 13eg, 1919.