LLEWELYN JONES. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Dydd Mercher, Mawrth 19eg, yn nghartref ei chwaer, Mrs. Ishmael Williams, 120 Boyce Avenue, bu farw Mr. Llewelyn Jones. yn 44 mlwydd oed. Er yn gwaelu er's blwyddyn, yr anwydwst yn mis Hydref diweddaf gyflymodd y diwedd.Ganwyd ef yn Llandudno. Gogledd Cymru, Tachwedd 28ain, 1874, a daeth i'r ddinas hon tua 25 mlynedd yn ol. Arch-adeiladvdd oedd wrth ei alwedigaeth.
Priododd yn Utica yn 1900 a Miss Mary Elizabeth Hughes, yr hon gyda'u mab a'u tair merch a alarant ar ei ol; hefyd, un brawd yma yn Utica. ac un arall yn Nghymru.
Mynychai yr eglwys Bresbyteraidd, ac yr oedd yn aelod o Utica Lodge. No. 450, L. O. O. M., y rhai a anfonaant flodau i'r angladd. Y Parchn. Dr. Brokaw a Dr. John Davies a wasanaethasant yn yr angladd.