MARTHA MORRIS JONES. REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Nos Iau, Tachwedd 13eg, yn ei chartref ar Maple Avenue, Remsen, New York, yn ei 91fed flwydd, bu farw Mrs. Martha Jones. Achos ei marwolaeth oedd henaint a'i ddadfeiliad.Yr oedd yn adnabyddus iawn yn yr amgylchoedd, yn ddynes barchus, dawel, ac yn gymydoges ragorol, ac o gymeriad addfwyn. a Christionogol.
Ganwyd Mrs. Jones, yr hon oedd Martha Morris cyn priodi, yn Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, Tachwedd 16eg, 1828. Pan oedd yn naw mlwydd oed, dechreuodd ei gofalon, pan y cafodd y gorchwyl o edrych ar ol y plant ieuengach. Yn 16 oed, cymerodd y gorchwyl o ofalu am hen foneddiges, hyd pan oedd yn 22 oed, pan yr ymfudodd i'r wlad hon. Wedi cyraedd New York, daeth yn mlaen yn ddioed at fodryb ar Deerfield Hill, ac ar ol aros yno ychydig, aeth yn mlaen i Remsen, lle yr arosodd ychydig, ac oddiyno aeth i Steuben, lle yr ymbriododd a William T. Jones, yr hwn a fu farw yn Mai 30ain, 1887. Ganwyd dau fab, Daniel a Thomas R. Jones. Ar ol marwolaeth ei gwr, yn y flwyddyn 1904, daeth at ei merch-yn-nghyfraith, Mrs. Elizabeth Jones, i Remsen, gyda'r hon y cafodd gartref cysurus, a phob gofal allai ddymuno gael.
Yr oedd yn aelod o eglwys Steuben, er na allai fyned yno ond yn anaml, ond yr oedd yn hoff o gylchoedd crefyddol. Yn y blynyddoedd diweddaf, aeth yn o ffaeledig a phallodd ei golygon, yr hyn a'i hamddifadodd o fwynderau cymdeithas. Gedy ddwy nith, Mrs. Edward Williams, Utica, a Mrs. Griffith M. Roberts, Barneveld; hefyd, ddwy ferch-yn-nghyfraith: Mrs. Daniel Jones, Mohawk, a Mrs. Elizabeth Jones, Remsen, gyda'r hon y gwnai ei chartref; ac un wyr, William T. Jones, Remsen.