MARY ELIZABETH JONES. GRANVILLE, NEW YORK.
Granville, New York, Gorphenaf, 27ain. Nos Fawrth diweddaf, wedi hir gystudd, bu farw Mrs. Mary Elizabeth Jones, priod Pierce Jones.Genedigol ydoedd o Bethesda, Gogledd Cymru. Ei gwr cyntaf oedd Edward Jones (Ned Bach, Tan'sgrafell), o'r un lle, a bu efe farw yma flynyddau yn ol, gan adael ei briod a phedwar o blant yn amddifaid. Rai blwyddi yn ol, ail briododd hi gyda Pierce Jones, ac y mae dau o'r plant o'r briodas hon yn fyw, sef Sydney a James; a Margaret a William E. o'r briodas gyntaf.
Yr oedd yn wraig dda a darbodus, yn fam ofalus, yn gymydoges hoffus, ac yn aelod ffyddlon o eglwys Jerusalem (A.). Cydymdemlir a'r teulu yn eu galar a'u colled, er ei bod wedi cael byw i'w magu i oedran y gallant ofalu amdanynt eu hunain. Bu y plant yn dda iddi, yn neillduol ei mab hynaf, William (Billy Barden, fel ei hadwaenir gan bawb. Llanwodd le priod a thad yn wir deilwng, ac y mae gair da iddo bob amser am ei ofal a'i gariad drostynt, a bydd yn gysur mawr iddo byth ei fod wedi gwneyd ei ran mor ragorol. Da, was da, a ffyddlon.
Cymerodd yr angladd le brydnawn Sadwm, y gwasanaeth yn y ty, y capel, a glan y bedd, yn mynwent Granville, dan ofal y Parch. W. O. Williams (M. C.).
Yr archgludwyr oeddynt David O. Jones, Frank L. Jones, Richard Parry, John R. Williams (Gof), Thomas D. Owens, Rees G. Williams. Er i'r tywydd droi yn anffafriol, daeth torf dda yn nghyd i ddangos eu parch i'r ymadawedig a'r teulu amddifaid.