NELLIE EVANS JONES. BANGOR, NORTHAMPTON COUNTY, PENNSYLVANIA.
Brydnawn Sul, Chwefror 23ain, 1919, am haner awr wedi dau, bu farw Mrs. Owen H. Jones ar enedigaeth ei chyntaf-anedig, yn 35 oed.Enw morwynig yr ymadawedig ydoedd Nellie Evans, a merch ydoedd i'r diweddar William Evans a'i briod, Wind Gap, Pennsylvania. Yr hyn sydd yn gwneyd marwolaeth Mrs. Jones yn eithriadol o siomedig a galarus ydyw yr amgylchiadau o dan ba rai yr ymadawodd a'r fuchedd hon, ac hefyd ei cholli mor fuan ar ol ei hanwyl dad, William Jones, yr hwn a fu farw boreu dydd Nadolig diweddaf.
Ganwyd Nellie yn Glanadda Postoffice, Bangor, Gogledd Cymru, lle yr oedd ei thad a'i mam yn masnachu ar y pryd, ac yn cadw y llythyrdy. Daeth i'r wlad hon gyda'r teulu pan oedd ond ychydig flwyddi o oed, a threuliodd y rhan fwyaf o'i bywyd yn Bangor a Wind Gap, Pennsylvania, a'r cylch.
Ychydig gyda thair blynedd yn ol, priododd gydag Owen H. Jones, mab i John ac Elizabeth Jones, Bryngwran, Mon, Gogledd Cymru. Mae y ddau deulu yn dra adnabyddus, ac iddynt gylch mawr o gyfeillion a pherthynasau yn yr Hen Wlad. Teulu nodedig ar amryw ystyriaethau ydoedd teulu a chartref William Evans, teulu a'i llond o garedigrwydd, a chartref croesawus i weinidogion yr Efengyl ac eraill ddeuai ar ymweliad a hwy.
Yr oedd Nellie a'i gwr yn byw gyda'i thad a'i mam ar ol priodi; William ac Owen yn ymgomio fel dau frawd, a Nellie a'i mam fel Ruth a Naomi; y naill yn cysuro y llall yn eu gofid a'u galar. Ond erbyn hyn, y mae angeu wedi chwalu y teulu, a'r cartref cysurus wedi ei ddymchwelyd; Owen heb ei anwyl briod, a Mrs. Evans heb ei Nellie.
Rhoddwyd genedigaeth i'r baban am haner awr wedi chwech yn y boreu, a bu y fam farw am haner awr wedi dau y prydnawn. Ond y mae y baban yn fyw, ac arwyddion bywyd cryf yn ei gyfansoddiad. Enwir y bachgen yn William John, ar ol ei ddau daid, a bydd, yn ddiau, yn wrthrych sylw, ymgeledd a gofal cylch lluosog o berthynasau, ac yn neillduol ei dad a'i nain, a sicr yw y bydd yn gyfrwng i ddwyn llawer o gysur iddynt yn eu galar ar ol eu hanwyl Nellie.
Yr oedd Nellie yn ferch dawel, ddymunol, garedig a chrefyddol iawn, ac wedi enill iddi ei hun edmygedd ac enw da cylch lluosog o gydnabod. Gadawodd i alaru ar ei hol, ei hanwyl briod, Owen Jones, a'i mam hoffus, a dau frawd Thomas a William, bechgyn rhagorol, y ddau yn briod; a sicr yw y cymerant ofal neillduol o'u mam yn ei phrofedigaeth a'i galar.
Brydnawn dydd Mercher, y 26ain, gosodwyd ei gweddillion i orwedd yn mynwent Bangor, Pennsylvania, yn ymyl beddrod ei thad, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. Ivor Thomas, ei hen weinidog.
Dangoswyd cydymdeimlad mawr a'r teulu yn y brofedigaeth chwerw hon, ac y mae yr amgylchiad wedi gadael argraff ddwfn a difrifol ar y gymydogaeth, ac yn neillduol ar aelodau y ddwy eglwys Gymreig, o herwydd yr oedd Nellie yn barchus ac anwyl gan bawb ar gyfrif ei chymeriad pur a'i bywyd glan. Dymunwn nawdd Duw dros y teulu a'r un bychan ar hyd eu hoes.
Ivor Thomas.