OWEN O. JONES. GRANVILLE, WASHINGTON COUNTY, NEW YORK.
Foreu Sadwrn, Tachwedd 22ain, 1919, bu farw y Cymro ieuanc, ag efe ond 32 mlwydd oed. Er cael ei dori i lawr yn ieuanc mewn bywyd, cafodd brofiad cynar o beth ydoedd cyfranogi yn helaeth o ddyoddefiadau corfforol. Cyd-rhwng y gwahanol anhwylderau. a'i blina, bu rhaid iddo fyned dan lawfeddygaeth bedair gwaith. Dygwyd tystiolaeth gan feddygon goreu Albany; New York, wedi ymchwiliau manwl i'w afiechyd, ei fod yn gyfryw ag a brofai yn angeuol iddo o fewn amser byr iawn. Wedi diffoddi o bob gobaith am adferiad, cyrchwyd ef yn ol yn ngofal dwy weinyddes broffesedig i gartref ei chwaer, Mrs. Frank L. Jones (ieuanc), Washington Street. Yn ystod y tair wythnos y bu efe byw wedi dychwelyd o'r ysbyty, gwnaed pob ymdrech allai cyfoeth ei sicrhau, a chafodd bob gofal fedrai cariad ei estyn, ond er y cyfan, hawdd canfod fod ei haul yn tynu tua'r gorwel, a bod ei adeg noswylio wedi dod.Bu farw yn dawel yn mreichiau cwsg, wedi dyoddef o hono boenau arteithiol am saith wythnos o amser. Ddydd Mawrth, y 25ain, talwyd i'w weddillion y gymwynas olaf. Gwasanaethwyd gan ei weinidog, y Parch. J. C. Simons (M. E.), yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. W.. 0. Williams, Peniel. Wedi cynal gwasanaeth byr yn y ty, cymerwyd ef i gapel yr M. E., lle y cafwyd fod tyrfa fawr iawn wedi ymgasglu i roddi eu teyrnged olaf o barch iddo. Dygodd ei weinidog dystiolaeth uchel iddo am ei ffyddlondeb a'i ewyllysgarwch yn cynorthwyo gyda chaniadaeth y cysegr. Cafwyd gair amserol iawn gan y Parch. W. O. Williams yn ystod y gwasanaeth. Cafwyd dadganiad tra effeithiol gan gor yr eglwys, o'r hwn yr oedd yr ymadawedig yn aelod. Hefyd, bu y cor meibion Cymreig yn ffyddlawn iddo hyd nes ei osod yn ei wely pridd, er mai gorchwyl anhawdd ydoedd iddynt ganu uwch ben corff marw eu cyfaill hoff; un fu yn aelod ffyddlawn gyda hwy am nifer o flynyddau; eto i gyd, canasant yn effeithiol iawn.
Dewiswyd mangre ei orweddfan yn rhan o gladdfa ei ewythr, Mr. Robert O. Roberts (Half Way). Gorphwysa yn dawel wrth ochr ei frawd, Leonard, yr hwn a fu farw yn Herkimer, New York, oddeutu tri mis-ar-ddeg yn ol, trwy ymosodiad o'r "fflu."
Cymerwyd gofal o'r angladd gan Gyfrinfa yr Odyddion, yr hyn a wnaed mewn modd teilwng, yn arbenig y llith angladdol gan y caplan, Mr. Robert E. Jones.
Mab ydoedd yr ymadawedig i'r diweddariaid, Mr. a Mrs. Owen Jones, Creigiau Mawr, Penygroes, Arfon, Gogledd Cymru. Ymfudodd i'r wlad hon oddeutu un mlynedd-ar-ddeg yn ol, gan wneyd ei gartref gyda'i ewythr, Mr. Robert O. Roberts (Half Way), yr hwn fu yn nodded iddynt fel plant, er pan gollasant eu rhieni. Mae yn aros i alaru ar ei ol, dair o chwiorydd. Erys un yn Llundain; un yn Nghymru, a Mrs. Frank L. Jones (ieuanc), yn yr ardal hon.
Un o nodweddion amlycaf ein cyfaill ydoedd ei dalent gerddorol. Yr oedd yn ddadganwr swynol iawn; a bob am- ser yn gymeradwy gan y cynulliadau a'i gwrandawai. Yr oedd hefyd bob amser yn ewyllysgar i gyflwyno ei dalent at wasanaeth y cyhoedd. Bu yn hynod frwdfrydig gyda'r gwahanol gronfeydd a wneid gan y llywodraeth yn ystod yrhyfel, yn nghyd a lluaws o bethau eraill yn y gymydogaeth. Ond O! mor rhyfedd meddwl na chlywir mwy ei lais peraidd "Now bach, Half Way." Mae ei delyn wedi ei thori, a'i gan wedi dystewi; ond hyderwn ar sail ei dystiolaeth bersonol, ac ar addewid ddigyfnewid yr uchel Ior
Fod iddo ran yn nghor y Wynfa lan
Lle na ddystewir byth ei gan.
Heddwch fyddo i'w lwch. Cydymdeimlir yn fawr a'r chwiorydd a'r perthynasau oll yn eu hunigrwydd a'u profedigaeth lem. Bydded i'r Arglwydd fod yn gysur iddynt a pheri eu bod yn ymostwng yn Gristionogol i'w ewyllys ddigyfeiliorni. "Trwy ddirgel ffyrdd mae'r uchel Ior yn dwyn ei waith i ben." Yr archgludwyr oeddynt: William Phillips, Ellis Thomas, Griffith Davies, John L. Jones, Richard G. Roberts, a Griffith Roberts, West Pawlet
I cannot think of them as dead,
Who walk with me no more;
Along the path of life I tread -
They have but gone before.