WILLIAM JONES. WEST PAWLET, RUTLAND COUNTY, VERMONT.

West Pawlet, Vermont.

Dydd Iau, yr 19eg cyfisol, taflwyd ein hardal i dristwch mawr gan ledaeniad y newydd fod damwain wedi dygwydd yn un o chwarelau y Rising and Nelson Company, drwy yr hon y collodd un o'n hen sefydlwyr, sef y brawd anwyl William Jones (Cae'r Gof), ei fywyd, ac yr anafwyd ei fab-yn-nghyfraith, John B. Griffith, ond yn ysgafn o drugaredd. Achos y ddamwain ydoedd gwaith yr hoisting stick yn tori tra y codid careg fawr o'r chwarel, ac y darfu i'r winding rope wrth gwympo i'r llawr gydio yn y brawd William Jones a'i lusgo am rai llatheni gan ei guro yn erbyn y ceryg. Cafodd bob cymorth posibl gan ei gydweithwyr, ond ehedodd ei ysbryd at yr hwn a'i rhoes mewn ychydig o fynydau, ac ni ddywedodd yr un gair.

Un arall o'r rhaffau a darawodd John B. Griffith, gan ei archolli yn ei ben, ond nid yn ddifrifol, a chafodd waredigaeth ryfedd rhag canlyniadau llawer gwaeth.

Dyn ydoedd William Jones oddeutu 63 oed, genedigol o le o'r enw Carmel a saif ar ochr Mynydd Cilgwyn yn Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru; a daeth i'r wlad hon oddeutu 36 o flynyddau yn ol, gan ymsefydlu yn Fairhaven, ond symudodd i fyw i West Pawlet, lle y treuliodd lawer o flwyddi meithion, ac a fawr berchid gan yr holl breswylwyr ar gyfrif hynawsedd ei gymeriad fel gwr tawel a Christion cywir; a dywedwn heb y radd leiaf o betrusder y pair ei golli fod bwlch yn eglwys y Cysegr (M. C.), nas gellir ei lanw ond yn unig gan Feistr y ty ei unan, gan ei fod yn un o'r ychydig ffyddloniaid a ddeuent i'r cwrdd a'r gyfeillach o wythnos i wythnos i ddal y goleuni i lewyrchu yn y nos.

Cydymdeimlir yn fawr ag anwyliaid y brawd hynaws, pa rai a adewir i alaru am briod ffyddlawn a thad tyner, a drwg genym ddweyd fod ei hoffus briod, Mrs. Jones, mewn sefyllfa lled wanaidd o ran ei hiechyd; a'i merch, hefyd, sef Mrs. John B. Griffith, heb fod mor gref ac y dymunid. Hefyd un mab, sef y brawd ieuanc anwyl Richard W. Jones, sydd ar hyn o bryd yn aros yn Granville, New York, fel eilliwr. Deallwn hefyd fod i'r ymadawedig un brawd yn byw yn Fairheaven, Vermont.

Nawdd y nef a gaffont oll fel teulu i ymgynal yn awr y brofedigaeth ddu.

Cawsom fel ardal ein taflu i fraw a syndod mawr ddydd Iau gan y newydd trist fod ein hen gyfaill hoff, William R. Jones (Caergo), wedi cyfarfod a'i ddiwedd yn un o'r chwarelau; un o'r cymeriadau mwyaf hoffus gan ei holl gydnabod; mor ysgafn ei ysbryd yn wastad, yn llawn o'r chwareus, yn anwylyn y plant i gyd, gan y byddai ganddo rywbeth i'w ddweyd wrthynt yn ei ffordd chwareus bob amser.

Bu fyw bywyd naturiol a da, yn briod a thad anwyl a gofalus, a bydd y golled a'r unigrwydd ar ei ol yn ddirfawr i'w anwyl briod yn ei gwaeledd, a'r ferch a'r mab. Y Duw da a fyddo yn llond ei enw i chwi deulu bach caredig yn y dydd blin. Bydd West Pawlet yn od, a'r aelwyd yn wag iawn heb yr anwyl a'r doniol Caergo.

Heddwch i'w lwch anwyl.

Y Drych Gorphenaf 24ain 1919.