WILLIAM JOHN JONES. WILKES BARRE, LUZERNE COUNTY, PENNSYLVANIA.
Gorchwyl pruddaidd ac anhawdd iawn genyf ydyw cyflwyno i ddarllenwyr y "Drych" hanes marwolaeth sydyn y brawd anwyl uchod, yr hyn gymerodd le foreu dydd lau, Hydref 9fed. Aeth at ei orchwyl gwaith fel arfer y boreu uchod, dan ganu rhai o'r hen emynau cysegredig ar ei ffordd. Yn fuan wedi iddo ddisgyn i'r pwll glo, yn mha un y gweithiai, tra yn cerdded gyda'i gyd- weithiwr yn mlaen at ei orchwyl, tarawyd ef gan un o'r cerbydau tanddaearol nes ei glwyfo yn farwol, a thra yn ei gario i un o ysbytai ein tref, ehedodd ei ysbryd anfarwol at yr Hwn a'i rhoddodd.Tarawyd ei deulu anwyl yn fud gan yr amgylchiad pruddaidd, ac nid yn unig ei deulu, ond hefyd yr eglwys yn Ashley, o ba un yr oedd yn aelod a blaenor ffyddlawn, ac hefyd y gymydogaeth. Y gwir yw, nid ydym yn medru sylweddoli yn iawn ei fod wedi ymadael a'r fuchedd hon, oblegid ei gymeryd ymaith oddiwrthym mor sydyn, ac o ganol ei nerth a'i iechyd.
Ceisiaf roddi i'w lu gyfeillion trwy gyfrwng y "Drych" ddarnodiad byr o'r brawd anwyl hwn o dan dri phenawd, sef fel dyn, fel swyddog eglwysig, a fel Cristion. Yr oedd wedi cael ei gynysgaeddu a dynoliaeth ardderchog. Dyn o natur dyner a chalon fawr ydoedd. Dyn yn feddianol ar barch cynenid at bethau goreu dyn a Duw. Dyn gweithgar oedd. Dyn oedd a brofodd ei hun yn briod ffyddlawn, ac yn dad tyner. Dyn egwyddorol, ac yn un hollol unplyg.
Ganwyd ef yn Cwmyglo, Gogledd Cymru. Dysgwyd ef yn mhethau crefydd yn eglwys y Methodistiaid yn Cwmyglo. Cafodd gydmar bywyd yn Mary J. Jones, o Llanrug. Daeth efe a'i briod a'r teulu i'r wlad hon yn 1S08, ac ymsefydlasant yn Wilkes-Barre. Y gweddill o'r teulu bach sydd heddyw yn galaru ydynt: ei weddw, a'u hunig blentyn, William J. Jones, yr hwn sydd yn briod, a dau o blant bychain. Nid yw y mab hwn ond newydd ddychwelyd o faes y frwydr. Bu yn ymladd gyda byddin Prydain.
Llawer gwaith y clywsom yr ymadawedig yn gweddio am ddychweliad ei fab, a chafodd ei weddi ei hateb, ond nid hir y cawsant fyw yn nghymdeithas eu gilydd, wedi i'w fab gyraedd adref. Diau genym y mae rhagluniaeth Duw yn dywyll i ni, blant y llawr.
Eto, fel swyddog eglwysig. Etholwyd ef i'r swydd o flaenor yn ein heglwys yn Ashley tua chwech mis yn ol. Teimlodd yn ddwys yr anrhydedd goruchel ddaeth i'w ran. Derbyniodd y swydd yn ostyngedig, gan addaw gwneyd ei oreu i gyflawni ei ddyledswyddau. Arholwyd ef gan y Parch. D. Wynne Rees yn y Cyfarfod Dosbarth diweddaf, a gynaliwyd yn Olyphant, Pennsylvania, a derbyniwyd ef yn aelod o'r corff anrhydeddus hwnw. Ni chafodd fod yn hir yn ei lawn arfogaeth, ond yn ddigon hir i ddadguddio i ni gyweirnod ei fywyd swyddogol. Deallasom yn fuan fod ganddo syniad cywir am ddyledswyddau blaenior Methodistaidd. Gallaf ddweyd yn ddibetrus ei fod yn yr oil ag oedd yn gynorthwy i'w weinidog, ac i'r praidd. Gwnai bob peth a fedrai i gynorthwyo y bugair a'r eglwys. Perthyn i mi i ddweyd fod ei le yn wag yn sedd fawr ein capel ni yn Ashlely.
Yn olaf, fel Cristion. Ganwyd ef y tro cyntaf yn y flwyddyn 1868. Ganwyd ef yr ail waith yn niwygiad mawr 1904. Dyna y flwyddyn y ganwyd ef yn Gristion. Felly, gwelwn mat un o blant y diwygiad oedd efe. Cof genyf i mi ei weled y tro cyntaf yn nghapel fy nghynofalaeth yn South Wilkes-Barre, ar foreu Sabboth. Aethym ato ar ol y bregeth, a gofynais iddo a oedd yn aelod o unrhyw eglwys. "Na," atebai yntau, a'r dagrau ar ei ruddiau. "Yr wyf wedi crwydro yn mhell o dy fy Nhad, ond yr wyf am ddychwelyd ar fy union; yn enwedig ar ol clywed y bregeth yna y boreu hwn. Nos lau, canlynol, daeth i'r gorlan yn blentyn edifeiriol, ac nid annghofiaf byth y wledd gawsom y nos Iau hono wrth dderbyn un o'r plant afradlon yn ol adref. Er iddo grwydro cryn dipyn, ni thorwyd y berthynas a etifeddodd yn rhinwedd ei ail-enedigaeth yn 1904. Mab afradlon, ie, ond mab, serch hyny.
Dyma sydd yn gwneyd dyogelwch plentyn Duw yn sicr, ei fod yn seiliedig ar berthynas, ac nid ar gyfamod neu gytundeb. Gellir tori a newid cyfamodau, ond fedrir ddim tori na newid perthynas byth. Unwaith i'n genir yn blant i Dduw, yna plant am byth wedi hyny. Gall y plant (fel y plentyn hwn) grwydro yn mhell, ond plant ydynt hwy, serch hyny. Ie, siwr, un o blant y diwygiad oedd y brawd anwyl hwn; iaith y diwygiad ar ei wefusau ef; tine y diwygiad yn ei lais ef; naws y diwygad yn ei ysbryd ef; ysbryd y dwygiad lond ei galon ef.
Cafodd angladd tywysogaidd; tyrfa fawr wedi dyfod i dalu y gymwynas olaf iddo. Cafwyd gwasanaeth byr yn y ty, ac yna yn y capel, lle yr oedd tyrfa fawr; y capel wedi ei lenwi gan gyfeillion a pherthynasau. Pregethwyd pregeth angladdol iddo gan y gweinidog y nos a'r prydnawn Sul canlynol.
Cydymdeimlwn o galon a'i weddw, ei fab, a'i ferch-yn-nghyfraith. Teilwng yw Mrs. Jones o'n hedmygedd. Profodd hithau ei hun yn wraig ffyddlawn, bur a gonest. Gwyddom ei bod wedi bod yn help mawr i'w gwr anwyl yn ei waith fel Cristion a swyddog eglwysig. Duw o'i ras fyddo gyda'i weddw a'r mab a'i deulu. Gobeithiwn weled y mab yn llanw lle ei dad ryw ddydd.
Wel, rhaid i mi ddweyd ffarwel wrth ein brawd anwyl am dymor, gan deimlo ein bod wedi colli dyn da, swyddog ardderchog, a Christion gloew. Terfynwn hyn o sylwadau byr trwy ysgrifenu ei hoff emyn:
Gwaed y Groes sy'n codi fyny
'R eiddil yn goncwerwr mawr;
Gwaed y Groes sydd yn darostwng
Cewri cedyrn fyrdd i lawr.
Gad i'm deimlo
Awel o Galfaria fryn.
Gan y Parch. Thomas London Jones.