ROBERT T. JONES. BANGOR, NORTHAMPTON COUNTY, PENNSYLVANIA.

Yn blygeiniol iawn, foreu Sul, Medi 7fed, 1919, bu farw ein hanwyl frawd, Robert T. Jones, yn ei breswylfod ar South 6th Street, wedi cystudd maith a chaled. Cafodd fyw i gyraedd trothwy addewid gyrfa bywyd ar y ddaear.

Brodor o Caellwyngrydd, ger Bethesda, Arfon, ydoedd, a chefnodd ar fro ei febyd yn gynar ar ei fywyd, gan wynebu ar Ddalaethau yr America, 48 mlynedd yn ol. Bu am gyfnod yn Peach Bottom a Vermont, ac wedi ymweliad byr a gwlad ei dadau, daeth yn ol drachefn gan ymsefydlu yn Bangor, Pennsylvania, ac o'r lle hwn yr ehedodd ei ysbryd tawel at yr Hwn a'i rhoes. Yr oedd yn aelod ffyddlon a dichlynaidd gyda'r Wesleaid Cymreig. Llanwodd amryw swyddau yn mysg ei frodyr, a lles yr achos yn uchaf ar ei galon bob amser.

Cymeriad tawel a diymhongar ydoedd, a'i galon yn ddygyfor gan garedigrwydd pur. Gwaddolwyd ef a mesur helaeth o hynawsedd crefydd, ac ni annghofir swyn ei weddi ger yr orsedd am amser hir, a'i allu rhyfedd i dynu'r nefoedd i lawer cyfarfod. Yr oedd ganddo y gair goreu i bawb bob amser, a thrwy hyny fe hawliodd air goreu pawb iddo yntau.

Tra yn dylyn ei orchwyl yn y chwarel rai blynyddoedd yn ol, cyfarfu a damwain ddifrifol, ac yr oedd ol y groes ar ei ysgwydd wan hyd ddiwrnod ei farw.

Gwynebodd ei awr olaf fel y bu fyw, yn dawel a boddlon i'r drefn fawr, gyda sicrwydd cryf o fywyd arall digwmwl, diboen, tu hwnt i'r llen.

Ddydd Mercher, Medi 10fed, daeth tyrfa luosog i hebrwng ei gorff marwol i "dy ei hir gartref," yn mynwent Bangor, hyd nes y bydd "dorau beddau'r byd ar un gair yn agoryd."

Gwasanaethwyd gan y Parchn. John T. Williams a John W. Griffiths, ac ni chlywyd dim mor effeithiol er's llawer dydd a'r lleddf-ganu ar dorian ei fedd. Aden dyner yr lor a ledo ei chysgod tirion: dros y weddw a'r plant yn nydd yr ystorm chwerw.

Nos dda, gymrawd hyfwyn; gorphwys bellach; melus fyddo dy hun yn dy argel wely hyd nes y tyr y wawr, ac y cawn eto gwrdd a chyfarch ein gilydd gyda "boreu da."
Gan J. T. W.

Y Drych ~ Hydref 9fed 1919.