THOMAS WILLIAM JONES. HANOVER, LUZARNE COUNTY, PENNSYLVANIA.
Mae Thomas W. Jones, 84 Walnut Street, wedi darfod a'r byd yma.Poenodd yn hir gan gyfyngder anadl, ac aeth i'r byd arall o'i gadair siglo, pan oedd efe a Mrs. Jones yn siarad a'u gilydd ar gyntedd cefn y ty.
Yr oedd Mr. Jones yn gwmniwr difyr ac yn ddyn agored a phlaen. Fel yr wyf yn deall daeth Mr. Jones a'i deulu dros y mor tua 30 mlynedd yn ol o Betheda, Arfon; ac wedi bod yma am rai blynyddau, aeth efe a'i deulu yn ol i fyw i Blaenau Ffestiniog, ac wedi bod yno am rai blynyddau, dychwelodd i'r gorllewin fyd, a gwnaeth efe a Mrs. Jones eu cartref crefyddol yn eglwys y Methodistiaid.
Aeth o'r byd pan ond 57 o flwyddi o oed. Cadd angladd lluosog o herwdd yr oedd yn dra adnabyddus yma a manau eraill. Gadawodd ar ol weddw a saith o blant, sef William, Elmer, Stanley, Albert, Miss Nellie, gartref; Hugh yn Wilkes-Barre; Mrs. Thomas Lewis yn Dorranceton. Hefyd brawd yn Plymouth, Robert Jones; a phedair chwaer: Mrs. Edwin Davies, Plymouth; Mrs. D. R. Humphries, Peckville; Mrs. Lewis Miller, Staten Island, New York; a Mrs. Richard Evans yn Nghymru.
Gwasanaethwyd yn y ty gan dri o weinidogion, sef y Parchn. Evans, Nanticoke, yr hwn sydd yn briod a chwaer Mrs. Jones; Mona Jones o eglwys y Bedyddwyr, a W. Griffith (T. C.).
Siaradwyd yn rhagorol gan y tri wyr hyn. Awd a'r corff i fynwent Ashley i aros am floedd yr archangel.