ELIZABETH LEWIS JONES. NEW YORK CITY, NEW YORK.

Dydd Sadwrn, Mehefin 21ain, bu farw Mrs. Elizabeth Jones, priod y diweddar Robert D. Jones, ar ol cystudd maith; fel y dywedodd cyfeilles iddi na chafodd iechyd cyflawn er's dros bum mlynedd ar hugain; er hyny yn dyoddef yn ddirwgnach hyd y diwedd.

Cynaliwyd gwasanaeth angladdol iddi nos Fawrth y 24ydd. Yn yr eglwys, 155th Street, daeth cynulliiad mawr i'r gwasanaeth; hyny yn dangos eu parch tuag at yr ymadawedig, y Parch. D. Morgan Richards yn gweinyddu ar yr achlysur yn effeithiol iawn, a thalodd deyrnged iddi fel Cristion a mam dyner a gofalus. Yr oedd yn un o aelodau hynaf yr eglwys. Daearwyd ei gweddillion yn mynwent Woodlawn.

Merch ydoedd i Robert ac Elizabeth Lewis, Towyn, Meirionydd, ac oddiyno y daeth i'r wlad hon yn lodes ieuanc tua'r flwyddyn 1867, gan ymsefydlu yn y dref hon gyda'i brawd, Robert Lewis, blaenor y gan yn eglwys 13th Street am ysbaid maith, ac ar ol hyny yn flaenor yr eglwys. Arosodd gydag ef nes y priododd Robert D. Jones, mab William Jones, Henry Street. Ganwyd dau fab i'r uniad. Bu farw y tad tua un mlynedd ar ddeg yn ol. Yr oedd yntau yn flaenor yn yr un eglwys. Tua pedair blynedd yn ol, bu farw un o'r meibion, felly mae Robbie, y mab arall, wedi ei adael yn unig iawn. Cydymdeimlir ag ef gan ei luaws cyfeillion yn ei brofedigaeth.

Tad yr amddifad a fyddo yn dyner o hono. Brawd hefyd i Mrs. Jones oedd John Lewis, yntau yn flaenor yn 13th amser yn ol. Symudodd i Utica, ac fel yr wyf yn deall ei fod yn flaenor yn un o'r eglwysi yno. Mae yntau wedi ymadael a'r fuchedd hon er's amser. Yr oedd Mrs. Jones yn 65 mlwydd oed. Heddwch i'w llwch.

Y Drych Gorphenaf 3ydd, 1919.