JANE CROMWELL JONES. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Marwolaeth Cymraes Dalentog.
Bydd yn ddrwg gan lawer o'i hen gydnabod glywed am farwolaeth Mrs. Jane Cromwell Jones, mewn ysbyty lleol, ar ol wythnos o anhwyldeb dan glefyd yr ysgyfaint.Trigai yn 140 North Genesee Street. Ganwyd hi yn Dyffryn Ardudwy, Gogledd Cymru, 62 mlynedd yn ol, yn ferch i Thomas a Jane Lewis.
Ddeugain mlynedd yn ol, ymbriododd a Capt. Lewis Evans, yr hwn a fu farw ar fordaith, gan ei gadael gyda thri o blant.
Tua 32 mlynedd yn ol, daeth i'r wlad hon, ac ymbriododd a Joseph Cromwell Jones yn Utica, yr hwn ar un adeg arweiniai Gor yr Haydns. Bu farw tua 22 mlynedd yn ol.
Yr oedd gan Mrs. Jones lais godidog, a chanodd yn Nghymru gydag Eos Morlais, James Sauvage, Lucas Williams ac eraill. Ei henw llwyfanol oedd "Llinos Ardudwy," a chymerai ddyddordeb dwfn mewn cerddoriaeth. a chanai yn achlysurol yn ein Heisteddfodau. Yr oedd yn aelod o eglwys Grace, ac yn ffyddlon yn y gwasanaeth. Hydref diweddaf, bu ei mab, Joseph, farw, ac oddiar hyny, gwaelodd yn raddol.
Gedy saith o blant: Mrs. E. Herber Evans, William Griffith Evans, Taliesin Jones, Caradog Jones, Edith a Mary Ann Jones, Utica, a Mrs. Robert Roberts, Dyffryn, Cymru. Hefyd, gedy un chwaer, Elizabeth Evans, Cymru; a phedwar wyr: Helena Jane Evans, Lewis a Harold Owen Evans a Jane Prydderch Jones.