CATHERINE LLOYD. SPRINGFIELD. WINDSOR, VERMONT.
Catherine Lloyd, Springfield, Vt., yr hon a hunodd yn yr angeu, Medi 24ain, 1919, ar ol byr gystudd o dair wythnos, ond caled iawn, yn ferch ieuanc 20 oed.Ganwyd hi, Ebrill, 1899, yn Trawsfynydd, Sir Feirionydd, Gogledd Cymru, cartref genedigol ei rhieni, John a Kate Lloyd. Gadawodd hefyd ddwy chwaer, Mary a Jennie, a dau frawd, William John a Cynddylan Lloyd, i alaru eu colled ar ei hol, heblaw llu eraill o berthynasau, ac yr oedd i Catherine le cynes yn eu calonau. Y Sabboth dylynol, Medi 28ain, wedi gwasanaeth byr yn y ty, gan weinidog yr M. E., daethpwyd a'i gweddillion i orphwys i fynwent hardd Cedar Grove, Fairhaven, Vermont, lle y mae claddfa y teulu yn y wlad hon, gan iddynt golli bachgen pan yn byw yma, cyn symud i'r lle y maent yn awr. Cafwyd gwasanaeth crefyddol yn nghapel yr M. E. yn Fairhaven, lle yr oedd torf wedi ymgynull yn dysgwyl yr angladd gyraedd yma, a lle yr oedd Catherine yn aelod ffyddlon o'r cor pan yn byw yma, a thystiolaeth y gweinidog oedd nad oedd wedi cyfarfod a geneth erioed mwy ufudd a pharod i wneyd ei rhan mewn unrhyw beth o ofynwyd ganddi. Yr oedd ganddi lais alto neillduol, a chanodd lawer mewn cyngerddau, ond yn y capel y byddai ei thalent yn cael ei ddefnyddio fwyaf.
Methai y gweinidog a deall ei symudiad o'r fuchedd hon, os nad am fod ei hangen mewn gwell cor fry. Erbyn myned i'r fynwent, yr oedd yno dorf arall o bobl yn dysgwyl; hefyd daeth tri o deuluoedd yr holl ffordd o Springfield. Bum yn y cartref, ac ni welais gymaint o flodau yn dod i dy erioed, yr hyn oedd yn brawf o'r lle cynes oedd i Catherine yn nghalonau y bobl. Daeth pump o fechgyn ieuainc o Springfield yn arch- gludwyr, a'r ysgrifenydd o Fairhaven. Yr oedd yr adnod hono yn cael ei gwireddu yn mywyd Catherine: "Gwyn eu byd y rhai addfwyn, canys hwy a etifeddant y ddaear"; felly hithau. Yr oedd wedi enill serch pawb y daeth i gyfarfyddiad a hwy, gyda'i gwen bach siriol ar ei gwyneb bob amser. Dyna glywais gan bawb o'r Seison, "We miss Catherine's smile."
Yr oedd yn un o'r cymeriadau mwyaf anwyl a phrydferth a welais erioed. Dylyned gweddill ei chwiorydd a'i brodyr y nodweddion amlwg a phur oedd ynddi hi, ac sydd yn aros yn berarogl i gymdeithas ar ei hol. Heddwch i'w llwch hyd foreu pan bydd dorau beddau y byd yn cael eu hagor, ac ymgysured y rhieni anwyl fod Catherine yn canu mewn cor lle nad oes na phoen na galar na dim yn blino byth mwy. Dymuna y teulu gydnabod yn ddiolchgar iawn garedigrwydd pawb tuag atynt yn yr amgylchiad yn Springfield a Fairhaven.
Uncle John.