MARTHA HUMPHREYS LLOYD. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Bu farw Martha Humphreys, gwraig John Lloyd, tra ar giniaw, nos Sabboth, yn ei chartref, 1206 Neilson Street. Yr oedd mewn iechyd dipyn yn wael er's peth amser, ond nid oedd dim i ddangos ei bod mewn perygl. O'r galon y daeth yr achos marwol. Yr oedd Mr Lloyd, yn ol ei arfer, wedi myned at yr argraffwaith yn swyddfa'r Utica II Daily Press gyda'r nos pan y daeth yr alwad sydyn arno i ddychwelyd.Ganwyd Mrs. Lloyd, yn ferch i William ac Anna Humphreys, Pwllheli, Sir Gaernarfon, Hydref 14eg, 1863. Daeth i'r wlad hon a'r ddinas hon yn 1884, ac yma y bu er hyny.
Yn 1886, priodwyd hi i John Lloyd. Yr oedd Mrs. Lloyd yn aelod o eglwys Moriah, ac wedi bod yn gwasanaethu yn y cor er's blynyddoedd lawer, Drwy ei dyddordeb mewn canu, yr oedd yn adnabyddus mewn llawer cylch, ac yn uchel yn marn y cyhoedd.
Heblaw ei phriod hiraethus, gedy i alaru ar ei hol, un mab, John Ambrose Lloyd, New Hartford; dwy ferch, Mrs. William G. Williams a Mrs. Harry Davis, o'r ddinas hon; chwaer, Mrs. Mary Creighton, yn Lloegr; a dau frawd, Thomas Humphreys, yn Nghymru, a William Humphreys, o'r ddinas hon.
Yn angladd preifat Mrs. John Lloyd, brydnawn dydd Mawrth, gwasanaethodd y Parch. John Davles, D. D. Yr elorgludwyr oeddynt: John L. Evans, Evan T. Williams, Hugh T. Jones, William Williams, Henry R. Jones a Thos. R. Jones. Rhoddwyd y gweddillion i orphwys yn y vault yn Forest Hill Cemetery.
Y Drych ~ Chwefror 6ed, 1919.
MARTHA HUMPHREYS LLOYD. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Nodion Eglwys Moriah, Utica, New York.
Mae'r eglwys hefyd, yr wythnos hon, wedi colli un o'r ffyddloniaid, yn marwolaeth y chwaer weithgar a duwiol, Mrs. John Lloyd. Bydd ei lle yn wag yn ein mysg, a'i llais swynol wedi tewi yn yr angeu. Canodd hyd y diwedd bron; yr oedd ganddi lais alto rhagorol, a chyflwynodd y dalent hon a roddwyd iddi bron yn gyfangwbl i wasanaeth crefydd.Erbyn hyn, mi gredaf, ei bod yn y cor na bydd chwalu arno byth, ac yn canu yn fwy soniarus nag erioed. Yr oedd yn chwaer garedig a siriol. Y mae ein cydymdeimlad a'i hanwyl briod, ac a'i phlant, yn eu colled o briod ac o fam dda a serchog iddynt, a'r un modd, ei brawd, William Humphreys, ac eraill o'r perthynasau yn eu trallod a'u galar am un oedd yn hoff iawn ganddynt.