LEWIS REES MORGAN. GRANVILLE, WASHINGTON COUNTY, NEW YORK.

MARWOLAETH LEWIS R. MORGAN SCHENECTADY, NEW YORK.

Lewis Rees Morgan, Schenectady, New York, hunodd yn yr angeu ar y pumed cyfisol, wedi naw wythnos o gystudd trwm a dyoddef amyneddgar, hyd nes cafodd ei ollwng o grafangau yr hen elyn, y darfodedigaeth. Rhai o'i eiriau olaf wrth ei briod oeddynt, "nad oedd y cystudd yn ofer, gan y gwyddai ei fod wedi cael maddeuant llwyr, ac y caffai fynediad helaeth i mewn i lawenydd ei Arglwydd."

Yr ydoedd Walter, y mab hynaf, yn Ffrainc gyda'r fyddin Americanaidd, ac yn ystod ei gystudd, gweddiodd a dymunodd Lewis Morgan "lawer am ei weled, a gofynai yn barchaus a ydoedd Walter wedi cyraedd, ond gorphenodd ei yrfa ddaearol heb gael ei ddymuniad, gan ymostwng i'w ewyllys fawr Ef.

Ganwyd Lewis Morgan yn Brynhoreb, Rhostryfan, Sir Gaernarfon, Mawrth l0fed, 1867; efe yn fab i'r diweddariaid Lewis ac Ann Morgan; ei fam yn ferch i William a Margaret Williams, Tycapel, Rhostryfan.

Daeth Lewis a William, ei frawd, gyda'u tad o Gymru yn mis Mai, 1886, gan ymsefydlu yn Granville, New York. Ymunodd ein gwrthrych mewn glan briodas gyda Prudence E. Owens, Mai 23ain, 1888, a bu'r uniad yn un hapus iawn, a chafodd ymgeledd gymwys hyd y mynyd olaf. Ganwyd iddynt naw o blant; pump o ferched a phedwar o feibion, yr oll yn Schenectady oddigerth yr hwn sydd yn Ffrainc.

Yr oedd Lewis Morgan yn adnabyddus iawn yn ardaloedd y chwarelau, gan iddo ddylyn ei alwedigaeth fel chwarelwr am ran helaeth o'i oes. Yr oedd hefyd yn adnabyddus i'r cerddorion mewn llawer cylch. Bu yn arweinydd y canu yn nghapel yr Annibynwyr yn Granville am ysbaid o saith mlynedd, hyd nes iddynt fel teulu symud i Schenectady yn y flwyddyn 1916, er mwyn rhoddi addysg i'r plant. Cofia llawer o hen aelodau yr Utica Philharmonics iddo fyned gyda hwy i gystadlu i Eisteddfod Canton, Ohio, yn 1906, y cor y pryd hwnw dan arweiniad Proff. I. T. Daniels.

Cymerai ddyddordeb mawr mewn cerddoriaeth, ac yr oedd yn Eisteddfodwr pybyr iawn. Byddai ganddo gor flynyddau yn ol yn cystadlu yn yr Eisteddfodau, a byddai yn aml yn fuddugwr, ac mae ei fathodau yn lluosog.

Awd a'i gorff i Granville, lle y daearwyd ei weddillion ar y 8fed cyfisol yn meddrod ei dad, sydd wedi ei ragflaenu. Yr oedd y torchau blodau yn lluosog iawn, ac yn arddangosiad o barch i un ag oedd yn anwyl ganddynt. Gwasanaethwyd yn nhy Mr. a Mrs. Rees G. Williams, i'r man yr awd a'i weddillion (Mrs. Williams yn chwaer i Mrs. Lewis Morgan), ac wrth y bedd, gan y Parchn. W. O. Williams (M. C.) a Mr. Broughton (Bed.). Yr oedd trefniadau y gwasanaeth yn ngofal yr Urdd Iforaidd, a chanwyd rhai o'i hoff emynau gan ddeg o aelodau cor Granville.

Yr archgludwyr oeddynt cydaelodau y diweddar frawd o Gyfrinfa "Llywarch Hen": Morris R. Roberts, Owen H. Williams, Wm. J. Williams, Robert Hughes, David O. Jones a Morris H. Roberts.

Gadawodd i alaru ar ei ol, ei briod a'i blant, ac un brawd, sef William Morgan, Arvonia, Virginiaa; Mrs. Margaret Owen, Lime Springs, Iowa, yn fodryb iddo, chwaer i'w fam, Katherine Thomas, o'r ddinas hon (Utica), sydd gyfnither iddo. Mae i Lewis Morgan luaws o berthynasau tua Ffestiniog, Penmorfa a Rhostryfan, Gogledd Cymru.

Bydded i Dad yr amddifaid a Barnwr y gweddwon fod yn dirion wrth y teulu oll yn eu profedigaeth. Bydded i'r "Rhedegydd" a.'r "Genedl" wneyd nodiad o'r uchod.
Katherine Thomas.

Y Drych ~ Chwefror 27ain, 1919.