DAVID J. MORRIS. POWELL, SOUTH DAKOTA.
Ganwyd Mr. D. J. Morris yn Ysgoldy, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Medi 26ain, 1857. Yr oedd yn fab ieuengaf o deulu mawr i John ac Elizabeth Morris.Pan yn ddyn ieuanc tua 23ain oed, ymfudodd i'r wlad hon, gan ddod at ei chwaer i Lime Springs, Iowa, yn bresenol, Mrs. Morgan Howells, Wilmot, South Dakota. Oddiyno symudodd i Minneapolis, lle y bu am flynyddau yn yr Harvester Works yn gweithio. Yno daeth i gyffyridiad agos a llawer o Gymry oedd ieuainc y pryd hwnw fel yntau, ac yn cydweithio ag ef yn y blynyddau 1880- 1883. Yr oedd llawer o ymfudo y blynyddau hyny i diriogaeth fawr Dakota, ac yr oedd llawer o Gymry yn mhlith yr ymfudwyr a ddeuai i'r West yma i chwilio am diroedi a chartrefi newyddion.
Penderfynodd Mr. Morris fentro yn gynar yn 1883, a sefydlodd yn Powell, tiriogaeth Dakota, yr hon a ranwyd yn dde a gogledd, tua 1888 neu '89.
Tra yma, gwelodd lawer iawn o newidiadau a chaledi, fel pawb, i ddechreu ffarmio mewn gwlad newydd; ond drwy ddyfalbarhad ac egni yr oedd efe a'i deulu erbyn hyn wedi cefnu ar galedi bydol ac mewn safle pur gysurus. Gan ei fod yn un o'r sefydlwyr cynar, yr oedd ganddo doraeth o hanesion am y sefydliad yn ei fabandod. Pe yn llenor, i drefnu yr hyn oedd ganddo yn y cof mewn ysgrifen, buasent yn bethau dyddorol iawn, a cholled fawr yn ein hanes fel Cymry ydyw fod hanes cynarol y Cymry mewn llawer talaeth yn colli o ddiffyg digon o ddyddordeb.
Y tro cyntaf i mi gyfarfod a Mr. Morris ydoedd yn Hydref 1885. Canu yr ydoedd y pryd hyny, mewn gwesdy bychan a gadwai Mr. a Mrs. Morris Jones, yn Powell. Meddai ar lais tenor swynol, a bu yn ein difyru lawer tro yn y blynyddau dylynol, a chaneuon da a gweddus ydoedd wedi eu dysgu yn yr ysgol yn Tanygrisiau pan ydoedd y diweddar Barch. T. L. Griffith, Cambria, Minnesota, yno yn ysgolfeistr. Darllenai lawer ar lyfrau, a byddai y "Drych" ganddo wrth ei ymyl yn aml.
Yn y flwyddyn 1889, ymwelodd a'i hen gartref yn Ffestiniog, a thra yno ymbriododd a Miss Cathrine Williams, Gareg Lefn, Mon. Daeth yn ol yma gyda'i briod, yr hon fu wraig dda iddo am y gweddill o'r oes. Ganwyd iddynt chwech o blant, y rhai gyda eu mam, sydd wedi eu gadael i alaru ar ol priod a thad fu ofalus iawn o honynt bob amser. Mae y plant oll adref gyda eu mam: John, Alice, Robert, Winnifred, Henry a Clarence. Mae Alice, y ferch hynaf, wedi graddio er's tro yn y Normal College yn Aberdeen, ac yn athrawes yn un o ysgolion elfenol y sefydliad gerllaw y cartref.
Bu Mr. Morris yn cwyno am flynyddau dan yr afiechyd, a thalodd ymweliad a'r meddygon enwog yn Rochester, Minnesota, rai blynyddoedd yn ol, ond er hyny ychydig o wellhad a gafodd. Drwy y gwanwyn diweddaf gwaethygodd, a thua tair wythnos cyn ei farwolaeth aeth i Fairview Hospital yn Minneapolis, lle y gwelwyd mai y cancer yn y cylla oedd yr afiechyd fu yn glynu mor hir. Yr oedd y ferch Alice gydag ef yn Minneapolis, a phan welwyd arwyddion fod y diwedd yn dod, anfonwyd am Mrs. Morris a'r mab Robert oddiyma yn ddioed.
Bu farw yn yr hospital a nodwyd, Gorphenaf yr 8fed, 1919. Dygwyd y gweddillion yn ol adref gyda rhan o'r teulu oedd gydag ef, a bu hen gydnabod boreu oes o'r Blaenau mor garedig a dod gyda hwy yn gwmni yn nydd y brofedigaeth, sef Mrs. Mary E. Yerxa, University Avenue, Minneapolis, Bu lluaws mawr o Gymry Minneapolis yn garedig iawn wrth y teulu yn y gwaeledd a'r brofedigaeth. Gwyddom drwy brofiad nad oes ball ar eu caredigrwydd yno mewn awr gyfyng, ac yr oedd y plethflodau ar yr arch yn arwydd o'u parch i'r marw a'i deulu.
Claddwyd ef dydd lau, Gorphenaf y lOfed, yn mynwent Powell, ein gweinidog, y Parch. Baldwin Davies yn gweinyddu yn y ty, y capel a glan y bedd. Yr oedd Mr. Morris yn aelod o eglwys Powell er's blynyddau, ond yn cael ei luddias gan yr afiechyd i fynychu y moddion yn aml. Daeth tyrfa fawr yn nghyd i'w hebrwng gydag arwyddion amlwg o barch i'r rhan oedd farwol a roddwyd y dydd a nodwyd yn mhriddellau oer y bedd.
Dyma ydyw hanes llawer o'r hen sefydlwyr yn Nhalaeth South Dakota y blynyddau hyn - marw. Y maent yn cael eu galw yn fwy aml fel mae'r blynyddau yn amlhau ac yn ymestyn. Mae yr hen "Ddrych" yma yn cofnodi marw fy nghyfoedion yma ac yn Nghymru, a byddaf yn synu uwch ben yr enwau cyfarwydd i mi oedd tua Llanberis yn moreu yr oes, sydd erbyn y prydnawn yn gwywo ac yn, cael eu tori ymaith.
Yr oedd i Mr. Morris lawer o gyfoedion a chydnabyddion sydd yma ac acw dros y Talaethau, wedi eu cydfagu ag ef, a myned i'r ysgol, ac i'r chwarel gyda'u gilydd tua Ffestiniog. Dyma'r "Drych" yn anfon un o'i "surprise news" i chwithau fechgyn yr haner cant, tri-ugain a phump-a-thrigain oed.
Gan O. W. Rowlands.