JAMES MORRIS. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Mewn ysbyty yn Utica, bu farw James Morris, nos Fercher, Gorphenaf 16eg.Ganwyd ef yn Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, Hydref 8fed, 1854, a phan yn ddyn ieuanc daeth yn union ar ol croesi'r mor i Utica, lle y gwnaeth ei gartref.
Yn 1882, priodwyd ef a Miss Jennie Griffiths, yr hon a'i rhagflaenodd y tu hwnt i'r llen bedwar mis yn ol.
Fel gwleidyddwr, Gwerinwr ydoedd, a daliai y swydd o gwnstabl yn y Fourth Ward. Dylynai yr alwedigaeth o deiliwr, ond am y flwyddyn ddiweddaf, gwyliwr oedd yn yr Oneita Knitting Mills.
Gedy ar ei ol, ddau fab: James R. Morris ac Edward E. Morris; ac un ferch, Jennie M. Morris; a dwy wyres, Elsie M. a Catherine J. Morris; ac un chwaer, Mrs. John Pugh, Emporia, Kansas, ac amryw neiod a nithod.