WILLIAM REES NANNEY. CLINTON, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Y mae genym y tro hwn y gorchwyl prudd o gofnodi ymweliad angeu a Swyddfa y "Drych" mewn ffordd resynus iawn, ac yr ydym oll yn galaru o herwydd marwolaeth ein diweddar gysedydd, William Rees Nannay. Daeth yma yn olynydd i'n cysodydd ymadawodd rai wythnosau yn ol, ac wedi gweithio ychydig gydag wythnos, cymerwyd ef yn sal iawn gyda'r pla sydd yn symud llawer y dyddiau hyn allan o'n byd.

Yr oeddym yn obeithiol iawn ynglyn a'n cyfaill ieuanc, ac yr oedd yntau yn awyddus iawn i lanw ei le a chyflawni ei waith fel linotyper. Yn mhen ychydig ddyddiau ar ol dechreu, yr oedd yn awyddus i symud o'i gartref blaenorol yn Norwich, New York, ac ymdrafferthai gryn lawer i gael ystafelloedd cyfleus a chysurus, ond prin iawn yw hyny yn ein dinas y dyddiau hyn.

Symudodd i fewn i'w gartref, 1135 Miller Street, a'r noswaith gyntaf teimlodd gur mawr yn ei ben, ac yn fuan gafaelodd y clefyd peryglus ynddo mor ddrwg fel y gorfuwyd ei gymeryd i Ysbyty Faxton, lle y bu farw foreu Sadwrn, Ionawr 3ydd, gan ein synu yn ddirfawr yn y Swyddfa. O'r braidd y gallem gredu yr hanes; ond trodd allan yn rhy wir.

Taflodd hyn ni eto i gyfyngder yn nglyn a'r "Drych," fel y bu rhaid edrych am gymorth at y gwaith Cymraeg sydd yn anhawdd ei gael. Buom yn ffodus i gael Arthur M. Roberts, nai ein hen Olygydd, John C. Roberts, a rhoddodd esmwythad mawr i ni. Yr wythnosau aeth heibio yr ydym wedi bod mewn cyfyngder, a daeth yn gyfyngach arnom gyda marwolaeth annysgwyliedig Mr. Nannay.

Yr ydym yn cydymdelmlo yn ddwys a'i weddw ieuanc a adewir gyda'i baban, William Rees Nannay (Ieu.), pedwar mis oed, baban bychan siriol a hawddgar a wna ffryndiau o bawb. Bydd yn ddyddanwch mawr i'w fam.

Ganwyd William Rees Nannay yn Caernarfon, Gogledd Cymru, Medi 23ain, 1888, lle y gwnaeth ei gartref yno hyd iddo ddod yma, ac i Utica, o'r lle, wedi byr arosiad yr aeth i Clinton, New York, lle y bu yn linotyper ar y "Courier"; oddi-yno aeth i Norwich, New York. Daeth i Utica rai wythnosau yn ol i weithio ar y "Drych." a gwnai ei gartref yn y cyfeiriad uchod.

Yr oedd yn ddyn ieuanc parchus, ac yn awyddus iawn am gyflawni ei ddyledswydd yn nglyn a'r "Drych," ond torwyd ef i lawr yn fuan wedi cyraedd yma: ac y mae galar yn mhlith ei gvdnabod a'i gyfeillion. Pan yn gweithio yn Clinton. yr oedd yn aelod o eglwys Gymraeg Seion (M. C.), New Hartford. Oddiyno aeth i Cherry Valley, New York, lle y priododd Miss Mary Catherine Roberts, y Parch. Jordan R. Fritz yn gweinyddu. Yn Norwich yr oedd pan y'i galwyd i'r "Drych."

Cymeroid yr angladd le yn y cartref foreu dydd Mawrth am 10 o'r gloch, y Parchn. J. Vincent Jones a Richard Oliver yn gweinyddu, ac yr oedd y gwasanaeth yn ddwys iawn; yr amgylchiad mor eithriadol.

Yr elorgludwyr oeddynt: Hugh Owen. Rome; William T. Jones, Thomas Jones ac E. A. Jones. Utica. Dyledus yw dweyd i Mr. T. J. Griffiths ddangos caredigrwydd mawr tuag at y weddw ieuanc a'i baban a rhoddodd gymorth sylweddol yn ystod symudiad y teulu bychan i Utica. ac yn ystod cystudd Mr. Nannay yn y ty ac yn yr ysbyty; a chymerodd Mr. a Mr. Griffiths a'r meibion ddyddordeb dwfn drwy'r dydd yn yr amgylchiad trist: Mrs. Griffiths yn cymeryd gofal o'r baban yn ystod y dydd. Teimla y perchenogion yn ddwys iawn o achos y dygwyddiad prudd.

Y Drych ~ Ionawr 9fed, 1919.