DAVID OWENS. BANGOR, NORTHAMPTON COUNTY, PENNSYLVANIA.

Ionawr 4ydd, 1919 yn Bangor, Pennsylvania, bu farw David Owens, yn 66 oed. Wythnos yn ol yr oeddym yn cofnodi hanes marwolaeth Mrs. Ellen Owens o'r lle hwn, ac yn awr mae genym y gorchwyl gofidus o gofnodi hanes marwolaeth ei phriod.

Tarawyd y brawd a thristwch mawr, yn gymaint fel ag y byddai yn gweddio yn daer am gael marw, er cael myned i'r wlad lle yr oedd ei haner ef ei hunan wedi myned; ac yn mhen ychydig ddyddiau caniataodd yr Arglwydd iddo ei ddymuniad. Gofid a thoriad calon ydoedd achos ei farwolaeth, meddai'r meddygon.

Brodor ydoedd o Bethesda, Arfon. Daeth i'r wlad hon oddeutu 30 mlynedd yn ol. Treuliodd beth amser yn Johnstown, ac yna daeth i Bangor, lle y dylynai ei alwedigaeth fel chwarelwr hyd derfyn ei oes.

Cymeriad dyddan dros ben ydoedd yr ymadawedig, ac mor ffraeth ei ddywediadau a'r un Gwyddel a gyfarfyddem erioed. Yr oedd yn ddyn diwyd a gonest.

Mawr gydymdeimlir a'i blant a'r perthynasau yn eu galar.
Glan Conwy.

Y Drych ~ 30ain Ionawr 1919.