ELLEN OWENS. BANGOR, PENNSYLVANIA.
Dydd Mercher, Medi 3ydd, 1919, bu farw y chwaer anwyl, Mrs. Ellen Owens, gweddw y diweddar Owen T. Owens, o'r lle hwn, ond gynt o Cefn Rhyd, Bethel, Arfon.Cyfarfu a'i marwolaeth o dan amgylchiadau pur drist. Tra yn rhoddi glo ar y tan, ac yn ei gwaith yn tywallt olew ar hwnw, cydiodd y fflam ddifaol yn ei gwisgoedd, a bu farw yn aberth i'r elfen losgadwy yn mhen ychydig oriau.
Hanai ein hanwyl chwaer o ardal Bethel, Arfon. Yr oedd yn ferch Hugh ac Ellen Evans, o'r lle hwnw. Y mae brawd iddi yn preswylio yno yn bresenol. Ymfudodd i'r wlad hon oddeutu 46 mlynedd yn ol, ac wedi oes hir o gysylltiad priodasol, torwyd ar y berthynas dyner hon oddeutu dwy flynedd yn ol. Yr oedd yn gymeriad hawddgar a phrydferth, ac yn uchel ei pharch yn mysg yr ardalwyr a'i chyd- nabod. Nodweddid hi gan dawelwch Gristionogol, a hawdd y gellir cymwyso y geiriau hyny ati hithau, fel at ei Gwaredwr, "nid ymryson, ac ni lefain, ac ni chlywyd neb ei llais hi yn yr heolydd."
Un o ddysgyblion cuddiedig yr lesu ydoedd, heb ameuaeth wedi gwybod am "wreiddyn y mater," ac wedi ei phrydferthu a gras yr Efengyl. Yr oedd yn aelod o eglwys Crist gyda'r Annibynwyr, a'i rhodiad addas yn mysg ei phobl yn addurn i'r achos yn y lie ac i'r grefydd a broffesai. Ddydd Sadwrn, Medi 6ed, daeth tyrfa barchus i dalu y gymwynas olaf iddi drwy hebrwng ei chorff marw i fynwent Bangor, i orphwys yn dawel hyd ganiad yr udgorn diweddaf. Gwasanaethwyd ar yr achlysur gan y Parch. John T. Williams. Nawdd yr Ior fyddo dros y rhai a adawyd mewn galar chwerw ar ei hol, a bydded i'w diwedd hwy fod fel ei diwedd hithau, yn llawn o obaith a thangnefedd mawr.
Gan J. T. W.