HUGHIE OWENS. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Boreu dydd Mercher, Ionawr 22ain, bu farw Hughie Owen, bachgen Mr. a Mrs. Hugh J. Owen, 1300 Miller Street.Achoswyd ei farwolaeth gan enynfa yn ei gefn, yr hyn wnaed yn waeth y Sabboth diweddaf. Bu yn dyoddef er's blynyddau gyda'i gefn, ond gallai gerdded.
Ganwyd ef yn Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, ond daeth i'r wlad hon yn ieuanc gyda'i rieni. Yr oedd yn aelod o ysgol Miller Street, eglwys Moriah, Band of Hope Moriah, ag Ysgol Sabbothol Olivet.
Bachgen cyflym, witty, a wnai gyfeillion yn fuan ydoedd. Galarant oll ar ei ol, gyda'i rieni a'i dair chwaer, Margaret, Kate a Florence.
Y Drych ~ 30ain Ionawr 1919.
HUGHIE OWENS. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Mab oedd Hughie i Mr. a Mrs. Hugh Owen, 1300 Miller Street, Utica, New York, a ganwyd ef yn Cesarea, Upper Llandwrog, Sir Caernarfon, Gogledd Cymru.Pan yn flwydd oed, symudodd y teulu i Poultney Vermont, ac aeth Hughie yn wael iawn, a symudwyd ef i ysbyty yn Albany. Gwellhaodd ychydig, a phan yn bedair oed, symudodd y teulu i Utica, ac yno yr ail gymerwyd ef yn wael o'r un sal wch, sef anhwyldeb y cefn, ac awd ag ef i Ysbyty St. Luke, lle y cafodd bob gofal gan Dr. Kilbourne, y meddyg, un o oreuon y ddinas; ond ychydig oedd yn wella, a bu yn y General Hospital, ac yn y Roth Institute, 162 West 75th Street, New York.
Ionawr 22ain, 1919, cafodd ymosodiad eto, a dau ddiwrnod fu ei gystudd, ac er pob gofal, angeu a orfu. Yr oedd yn fachgenyn hoffus; dyna dystiolaeth pawb am dano. Ni fyddai byth yn segur, ond canfyddai rywbeth i'w wneyd o hyd. Canu oedd ei hoffus waith; a gallwn ddweyd am Hughie bach, yr hyn a allodd, efe a'i gwnaeth. Yr oedd ynddo feddwl bywiog, ond corff gwan.
Yr oedd yn perthyn i eglwys Moriah, ac yn aelod o Ysgol Sul Peniel, ac Ysgol Sul Olivet (Pres.), a'r Gymdeithas Ymdrechol, a Band of Hope Moriah. Dangosai y dorf ddaeth i'w gladdedigaeth fod Hughie a pharch mawr iddo. Cynaliwyd gwasanaeth angladdol yn nghartref y rhieni am ddau o'r gloch, ddydd Sadwrn, y 25fed, y Parch. John Davies, gweinidog eglwys Moriah, yn cael ei gynorthwyo gan y Parchn. J. Isaac Hughes a Peter McKenzie (Olivet), yn gwasanaethu. Canwyd "Byrdd Myrdd o Ryfeddodau" yn effeithiol iawn yn y ty, y canu dan ofal Griffith G. Jones, Miller Street. Yr oedd y blodau yn fynegiad o barch y gwahanol gymdeithasau: ysgol ddyddiol Miller Street, Band of Hope Moriah, eglwys Olivet ac Ysgol Sul Peniel.
Ei gymdeithion ieuainc oedd yr elorgludwyr: Eiddon Jones, Emlyn Thomas, Richard V. Jones, Harold Griffith, Idwal Jones a John Brown. Rhoed y gweddillion hyd adeg eu claddu yn y gadwrfa yn mynwent Forest Hill.