MR. RICHARD R. OWENS. HITCHCOCK COUNTY, NEBRASKA.
Ganwyd Richard R. Owens yn Aberdaron, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, Medi 15fed, 1845.Bu farw, Mai 5ed, 1919, yn Trenton Precinct, Hitchcock County, Nebraska.
Pan oedd yn chwech oed, daeth ei rieni, Robert R. ac Anna Owens i'r wlad hon, ac ymsefydlasant yn Floyd, Oneida County, New York.
Pan yn 18 oed, bu ei unig chwaer farw, ac yn mhen ychydig ei fam, gan ei adael ef a'i dad i wynebu anhawsderau bywyd gyda'u gilydd y modd goreu gallant. O'r diwedd gwerthasant y fferm ac aethant i gychwyn marsiandiaeth gyffredinol yn Turin, Lewis County, New York.
Ar ei benblwydd yn 25ain oed, priododd â Miss Jane Pritchard, ac o'r briodas hon, bu pedwar o blant, yr oll o'r rhai sydd heddyw yn fyw yn gynaliaeth ac yn gysur i'w mam ac i'w gilydd yn nydd eu galar. Y mae Anna wedi gwneud ei chartref gyda'i rhieni; y mae Mrs. Mamie Meeking yn Salt Lake City, Utah; Harry sydd gartref yn ffermio ac y mae Robert yn Upton, Wyoming. Oddieithr Robert, yr oedd y plant (ac un wyres, Caroline hefyd) gyda'u mam wrth wely marw eu tad.
Ar ôl bod yn y farsiandiaeth am 11 mlynedd, symudasant yn 1886 o Lewis County i'w chartref presenol yn Nebraska, gan ddwyn gyda hwynt Nain Pritchard, mam Mrs. Owens. Pan yn 19 oed, ymunodd Mr. Owens a'r eglwys Bresbyteraidd Gymreig, a pharhaodd yn weithgar a ffyddlon hyd y diwedd. Yr oedd yn aelod o'r Odyddion a'r Maswniaid.
Fel priod hynaws, a thad ffyddlawn a charedig, cydnabyddai pawb ynddo ddynoliaeth gref yn y gymydogaeth. Y Duw y gwyddom a wasanaethai mewn parchedig ofn a fydde yn Dduw ei deulu a'i ddisgynyddion hyd byth. Cydnabydda Mrs. R. R. Owens a'r teulu yn aml garedigrwydd a gawsant gan gymydogion, cyfeillion a cherddorion yn nyddiau eu galar.