OWEN PARRY. COLUMBUS, PLATTE COUNTY, NEBRASKA.

Gyda gofid yr ydym yn cofnodi marwolaeth y brawd, Mr. Owen Parry, yr hyn a gymerodd le, Ionawr 17eg, 1919.

Ganwyd Mr. Parry yn Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, tua 64 mlynedd yn ol. Daeth i'r wlad hon gan ymsefydlu yn ardal Wymore, Nebraska, tua 33 mlynedd yn ol, ac mewn tua chwech mlynedd ar ol hyny, symudodd i ardal Postville.

Yn Medi y flwyddyn 1892, ymunodd mewn glan briodas a Miss Elizabeth Williams, merch Mr. a Mrs. D. T. Williams, o'r ardal hon. a llwyddasant i wneyd iddynt eu hunain gartref cysurus. Bendithiwyd hwy a phump o ferched a chwech o feibion, y rhai (oddieithr un mab a gladdwyd yn ei fabandod, a Robert, y mab hynaf, yr hwn a gafodd ei ladd yn y rhyfel tua tri mis yn ol), oeddynt oll yn bresenol yn angladd eu tad.

Yr oedd Mr. Parry wedi bod yn dyoddef am beth amser oddiwrth glefyd y galon, ond yn ddiweddar daeth ei gyflwr yn waeth, a daeth y diwedd yn gyflym. Hefyd, gadawodd Mr. Parry, heblaw ei anwyl wraig, a'i blant, ddwy chwaer a dau frawd, Miss Elizabeth Parry a Robert Parry, yn yr Hen Wlad; Mrs. Ann Jones, Lincoln, Nebraska; a Watkin Parry, Canada.

Y dydd Mercher dylynol, daeth tyrfa fawr yn nghyd i dalu y gymwynas olaf iddo, ac yr oedd addoldy Postville yn rhy fychan i gynal y gynulleidfa; y Parch. Thomas Griffiths, Columbus, yn gwasanaethu. Yr oedd Mr. Parry yn aelod ffyddlawn o eglwys Postville, yn un o ddiaconiaid yr eglwys, ac yn athraw yn yr Ysgol Sabbothol er's blynyddoedd, ac hefyd yn arweinydd y canu, fel y bydd yn golled fawr ar ei ol yn eglwys Postville.

Bydded nawdd y nef yn amlwg dros y teulu oil yn eu profedigaeth.
Cyfaill.

Y Drych ~ Chwefror 20fed, 1919.


OWEN PARRY. COLUMBUS, PLATTE COUNTY, NEBRASKA.

Am ugain mynyd wedi chwech, brydnawn yr 17eg o Ionawr, y flwyddyn hon, bu farw Owen Parry, yn 64 mlwydd oed, wedi nychdod o ddwy flynedd.

Ganwyd Mr. Parry, yn Ty Croes, Llangybi, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru. Enwau ei rieni oeddynt Robert a Mary Parry. Mae pedwar o'r teulu eto yn fyw, sef Mrs. Owen Jones, Lincoln, Nebraska; Watcyn Parry, yn Canada; Lizzie a Robert gartref yn Nghymru.

Ymfudodd Mr. Parry i'r wlad hon yn y flwyddyn 1885. Sefydlodd am ysbaid yn Wymore, Nebraska, o ba le y daeth trosodd i Postville, lle treuliodd saith mlynedd- ar-hugain.

Medi 28ain, 1892, ymbriododd a Miss Elizabeth Williams, merch hynaf David ac Achsah Williams, Post-ville. Ganwyd iddynt un-ar-ddeg o blant. Bu un farw yn ei fabandod, a'r llall, Sergt. Robert O. Parry, roddodd ei fywyd yn aberth dros ei Dduw a'i wlad ar faes y gwaed yn Ffrainc, Hydref, 1918. Diau i'r amgylchiad o golli Robert brysuro olwynion cerbyd angeu. Loes drom i'r teulu oedd colli bachgen oedd a dyfodol mor ddysglaer o'i flaen. Mae naw o'r plant eto yn fyw i gysuro a dyddanu eu mam yn nyfroedd dwfn trallod a galar.

Amaethwr oedd Owen Parry wrth ei alwedigaeth, ac heb arfer gormodiaeth, gellir dweyd ei fod yn un o'r amaethwyr goreu yn swydd Platte. Yr oedd y canoedd erwau dan ei ofal yn bleser edrych trostynt. Yr adeiladau, y peirianau llafur, y da a'r cynyrch yn profi fod y perchenog yn feddianol ar yr elfenau angenrheidiol er llwyddiant.

Ei gartref ar ben y bryn fel palasdy gwledig, un o'r anedd-dai harddaf yn swydd Platte. Un o nodweddion amlycaf y cartref yw y ffaith fod caredigrwydd wedi ymorseddu ynddo. Mae y ffenestri yn loew fel grisial, a charedigrwydd yn gwenu trwyddynt. Mae y drws bob amser yn agored a charedigrwydd yn cymell i fewn. Medda yr anedd le cynes yn nghalon gweinidogion yr Efengyl fel cartref iddynt pan yn gweinidogaethu.

Yn swydd Platte, bydd colled am Owen Parry fel dinesydd a dirwestwr. Yn y capel Cymreig, bydd colled ar ei ol fel arweinydd y gan, athraw yn yr Ysgol Sabbothol, a diacon ffyddlon. Yn y teulu, bydd colled ar ei ol fel priod a thad; ie, colled anadferadwy.

Daearwyd ei weddillion yn naear gysegredig Postville, lle yr huna dan wyrddlesni haf a gwynder gauaf hyd foreu y codi. Heddwch i'w lwch nes cawn eto gwrdd.

Y Drych ~ Mehefin 12fed, 1919.