WILLIAM LLITHFAEN PARRY. WEST PAWLET, RUTLAND COUNTY, VERMONT.
Derbyniodd David D. Williams, 207 Leah St., bellebyr, ddydd Sabboth, o Collins, yn hysbysu fod ei nai, William Llithfaen Parry, wedi marw yn sydyn yno o'r pneumonia. Yr oedd tua 32 oed.Daeth i'r wlad hon o Sir Gaernarfon fel gweithiwr cyffredin, ond trwy ymroddiad i ddysgu, daeth yn gymwys i gymeryd swydd o dan y llywodraeth fel llyfr geidwad yn Gowanda. Yn West Pawlet, lle y bu yn gweithio, ac yn y ddinas hon, yr oedd ganddo lawer o gyfeillion.
Y Drych ~ 30ain Ionawr 1919.
WILLIAM PARRY. WEST PAWLET, RUTLAND COUNTY, VERMONT.
Foreu Sul, daeth i'n pentref y newydd galarus am farwolaeth y brawd ieuanc, William Parry (Llithfaen), rywle yn Collins, New York.Bu y gwr ieuanc hwn, flynyddau yn ol, yn aros yn West Pawlet, ac yr oedd yn fawr ei barch ar gyfrif ei gymeriad rhagorol; ymbriododd a geneth ieuanc o'n pentref, sef Elizabeth Davies, merch i John Davies, ac aethant i fyw i Collins, lle yr oedd efe mewn safle anrhydeddus, ond yn dra annysgwyliadwy i bawb, cymerwyd ef yn wael gan y "fflu," ac er pob gofal dadblygodd hyny i'r pneumonia, ac ehedodd ei ysbryd yn dawel at yr Hwn a'i rhoes.
Cydymdeimla pawb yn gyffredinol a'i briod hoff, ac a'r holl deulu yn nyfnder eu profedigaeth.
Gwlithyn.