JOHN GLYN PIERCE. SLATINGTON, LEHIGH COUNTY, PENNSYLVANIA.
Claddwyd yn ddiweddar yn Slatington, Pennsylvania, John Glyn Pierce, Mahanoy City, gynt o Shenandoah, yn 68 mlwydd oed.Ganwyd ef yn y Glyn, Llanberis; gadawodd weddw ac un mab, sef John, yn ei gartref yn Mahanoy City. Merch yw ei briod i'r diweddar Hugh Roberts a'i briod, gynt o Berlinsville, ger Slatington.
Adwaenid ef gan yr hen chwarelwyr fel "Shon Plas y Glyn."