JANE ELLEN SIMKINS PUGH. FOREST PARK, COOK COUNTY, ILLINOIS.
Blin yw genym orfod cofnodi marwolaeth y cyfaill, Evan T. Pugh, a'i briod, Jane E. Pugh. 2643 Wilcox Street. Bu y brawd farw lonawr 20 o'r pneumonia, yn 34 oed, a diwrnod ar ol claddu ei weddillion ef, sef y 24 cyfisol, bu farw ei briod o'r un afiechyd. Ychydig gyda wythnos fu y ddau yn glaf, erbyn hyn yn gorwedd ochr yn ochr yn mynwent Forest Home, ein parchus weinidog, Morris S. Jones, yn gweinyddu.Gadawsant i alaru ar eu hol, dri o blant bach: Emlyn, Richie a Louise Simkins.
Genedigol o'r Dyffryn. Sir Feirionydd, oeddynt, a daethant i'r wlad hon oddeutu chwe' blynedd yn ol.
Mae iddynt amryw gyfeillion yn Utica a Rome, a bydd yn ddrwg ganddynt glywed hyn. Duw a fyddo yn nerth i'w teulu yn yr Hen Wlad i ddal y brofedigaeth lem hon, ac yn Dad i'r amddifaid sydd wedi eu gadael yma.
D. O. E.