MRS. LAURA OWENS PUGH. FAIR HAVEN, RUTLAND COUNTY, VERMONT.
Mrs. Griffith Pugh who was taken suddenly ill Thursday with acute indigestion died Friday morning at 4 o'clock at the home of her daughter Mrs. Owen Pierce.Mrs. Pugh was born in Corris, Wales, December 25th, 1840, her maiden name being Laura Owens. When she reached womanhood she was married to Griffith Pugh and shortly after they left Wales for the United States, locating in Middle Granville, New York, some 40 or 50 years ago. After living there some years they removed to Fair Haven, which has been her home for upward of 30 years. Her husband died 19 years ago and since then her home has been with her daughters, in this town and Granville, New York.
Mrs. Pugh was a life long member of the Welsh Presbyterian church, and was conscientious in the discharge of her many duties. Her loss is deeply felt in the homes of her children to whom she was ever a help in time of trouble.
Her funeral was largely attended Monday afternoon at the Welsh Presbyterian chrch, her pastor, the Rev. R. W. Owen officiating assisted by the Rev. John D. Owen. The bearers were O. H. Owens, David Morris, H. H. Owen, Thomas Reese, W. J. Thomas and Benjamin Lewis. The burial was in Cedar Grove cemetery.
She is survived by four daughters, Mrs. Owen Pierce, Mrs. Daniel Griffith. Mrs. John Williams and Mrs. Morris H. Roberts and one son, Robert Pugh of Syracuse New York, and one sister, Catherine Owens of Wales.
Find a Grave.
MRS. LAURA OWENS PUGH. FAIR HAVEN, RUTLAND COUNTY, VERMONT.
Boreu Gwener, Gorphenaf 18fed, am bedwar o'r gloch, bu farw gweddw y diweddar Mr. Griffith Pugh, yn hynod o sydyn o anhwyldeb y galon. Er nad oedd hi yn gref ei hiechyd er's tro, ymddangosai yn well na'i harfer y dydd Iau blaenorol, ac hyd yn nod y dyddiau uchod yn flaenorol i'w marwolaeth.Ganwyd hi yn Dolgellau, Gogledd Cymru, yn 1841, ac felly yr oedd yn 78 oed. Ei henw morwynol oedd Laura Owens. Enwau ei rhieni oedd Robert a Catherine Owens. Pan yn 18 oed, ymbriododd a Mr. Griffith Pugh, ac yn y flwyddyn 1869, daethant i'r wlad hon, gan ymsefydlu yn Middle Granville, New York. Wedi byw yno am rai blynyddoedd, symudodd y teulu i Fairhaven.
Dygwyd hi i fyny yn Nghymru gyda'r M. C., a daliodd yn aelod o honynt hyd y diwedd. Er symud o ganol manteision crefyddol ei bro enedigol, a chael ei hunan mewn gwlad estronol, bu yn bur i'r addysg grefyddol a gafodd, a threuliodd ei hoes yn ddifwlch yn ngwasanaeth ei Harglwydd. Ni bu y byd yn ddigymylau iddi hithau; cafodd ei rhan o'i orthrymderau.
Gwelodd gladdu dau o'i meibion wedi iddynt dyfu i oed, a 19 mlynedd yn ol, ei phriod; felly yr oedd gofal y cartref arni hi, a chadwodd ef yn gysegredig a ffyddlon. Bu yn fam dyner a gofalus, a magodd y plant yn ofn ac athrawiaeth yr Arglwydd, pa rai sydd yn aelodau ffyddlon a gweithgar gydag achos y Gwaredwr.
Nodwedd arbenig yn ei chymeriad oedd ei charedigrwydd. Yr oedd yn bleser ganddi gael gwasanaethu eraill. Yr oedd yn hynod o gymydogol; bob amser yn llawen ei hysbryd, ac agored ei chalon. Gwnaeth lawer o gymwynasau yn ystod ei hoes, a bydd chwithdod ar ei hol mewn llawer cylch. Yr oedd yn un o fil mewn caredigrwydd. Bu yn dderbynydd cyson o'r "Drych" am flynyddau lawer, ac yr oedd ganddi feddwl mawr o hono.
Cafodd angladd lluosog o addoldy y T. C., pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn. R. W. Owens (T. C.) a J. D. Owens (A.). Rhoddwyd ei gweddillion i orphwys yn mynwent brydferth Cedar Grove. Gedy i alaru ar ei hol: Mrs. Owen Pierce, Mrs. Daniel Griffith, Mrs. John Williams, Mrs. Morris H. Roberts; Robert Pugh, Syracuse, New York; ac un chwaer yn Nghymru.
Cyfaill.