MARTHA S. PUGH. VALLEY, STEVENS, WASHINGTON.

Drwg iawn genym hysbysu marwolaeth Mrs. Jones, gwraig Mr. William E. Jones, yr hyn a gymerodd le, Mawrth 8fed, yn ysbyty y lle uchod. Nid oedd ei hiechyd yn dda er's blynyddau, ac ychydig ddyddiau yn ol cafodd ergyd o'r parlys, o'r hon yr ehedodd ei hysbryd at Dduw, yr Hwn a'i rhoes ef.

Yr hyn ag sydd yn gwneyd yr amgylchiad yn fwy torcalonus yw, fod ei thair merch fach adref yn wael o dan yr influenza, ac yn analluog i weled ei mam cyn iddi farw. Y mae cydymdeimlad y Cymry yn gyffredinol a'r teulu yn eu profedigaeth lem o golli gwraig a mam anwyl yn nghanol ei dyddiau.

Daeth Mrs. Jones i'r wlad hon gyda'i mam a'r teulu, sef Mrs. William Pugh, flynyddau yn ol, o Porthmadoc, Gogledd Cymru, yn eneth fach y pryd hyny, gan ymsefydlu yn y Big Bend, Washington, ac fel Martha Pugh yr oedd yn adnabyddus i ni fel Cymry y pryd hyny; ac yn un yr oeddym yn ei hoffi. Yr oedd yn adroddeg dda, a bob amser yn cymeryd rhan yn hen gapel bach y Big Bend, ac yno yr oedd ei chalon hyd y diwedd.

Cymerwyd ei chorff i Hartline, Big Bend, i'w ddaearu. Mae yn debyg y bydd rhywun o'r Big Bend yn anfon manylion am y claddedigaeth.

Gadawodd i alaru eu colled ar ei hol, heblaw ei hanwyl wr a'r tair merch, ei thad, William Pugh, a thri o frodyr, a dwy chwaer, yn y wlad hon, yn nghyd a pherthynasau yn yr Hen Wlad.

Yr Arglwydd a roddo nerth iddynt i ddal y brofedigaeth lem.

Dymunwn ar i bapyrau Cymru godi yr uchod.
Gan R. J. Hughes

Y Drych ~ Mawrth 27ain, 1919.