JANE ROBERTS. FAIRHAVEN, RUTLAND COUNTY, VERMONT.

Drwg genyf gofnodi marwolaeth Mrs. William Francis, Fairhaven, Vermont.

Bu farw ddydd Llun, Mawrth 24ain, o fewn pedwar mis i fod yn 8O mlwydd oed.

Merch ydoedd i'r hen gymeriad dyddan, Morris Roberts, Hafod Fawr. Ffestiniog, Gogledd Cymru, ac yn un o ddeuddeg o blant, ond nid oes ond un yn awr wedi ei adael ar ol, sef Mrs. Sarah Jones, 17 Stuyvesant Street, New York, yr hon sydd yn teimlo yn unig a thrallodus iawn wedi colli ei hunig chwaer.

Daeth hi a'i gwr i'r wlad hon yn 1873, gan ymsefydlu yn Fairhaven, Vermont, lle y treuliasant y gweddill o'u hoes.

Bu farw Mr. Francis yn mis Ionawr, 1918. Gadawodd Mrs. Francis naw o blant, sef tri o feibion a chwech o ferched, i alaru ar ei hol. Hefyd, Mrs. Jones, ei chwaer, a syndod oedd gweled yr oll o honynt yn yr angladd, yr hyn gymerodd le, ddydd Iau, Mawrth 27ain.

Mae yn debyg y ceir ychwaneg o'r manylion gan ryw rai o Fairhaven. Heddwch i'w llwch.

Y Drych Ebrill 3ydd, 1919.


JANE ROBERTS. FAIRHAVEN, RUTLAND COUNTY, VERMONT.

Unwaith eto yr ydym yn gorfod ymgymeryd a'r gorchwyl pruddaidd o gofnodi marwolaeth un o'r hen ardalwyr mwyaf adnabyddus a pharchus, sef Mrs. William Francis, yr hyn gymerodd le dydd Llun, Mawrth 24ain, yn nghartref ei merch, Mrs. Elizabeth Williams, Cedar Street. Yr oedd yr hen chwaer anwyl hon mewn ychydig i fod yn 80 mlwydd oed, ac yr oedd yn teimlo yn unig a hiraethus ar ol ei hanwyl briod, yr hwn oedd wedi ei rhagflaenu er's tua blwyddyn, wedi byw gyda'u gilydd am 54 o flynyddau, ac wedi magu teulu lluosog, sef tri o feibion a chwech o ferched; yr oll yn bresenol i dalu y gymwynas olaf i'w hanwyl fam; Francis a William Francis, a Mrs. Jones, yn Utica, New York; Mrs. Thomas, Mrs. Evan Jones, a Miss Edith Francis, yn New York; Morris Francis, Mrs. Elizabeth Williams a Mrs. Harry B. Lewis, yn Fairhaven; hefyd chwaer, Mrs. Sinah Jones, yn New York.

Ganwyd yr ymadawedig yn Llan Ffestiniog, Gogledd Cymru, yn y flwyddyn 1839, yn ferch i'r diweddar Morris Roberts, Hafod Fawr, Ffestiniog, ac ymfudasant i'r Unol Dalaethau yn 1873, gan ymsefydlu yn Fairhaven.

Cymerodd yr angladd le y dydd Iau canlynol, y Parch. J. D. Owen (A) yn gwasanaethu yn y ty ac ar lan y bedd. Canwyd yr hen emynau adnabyddus: "Pan yn cerdded trwy'r cysgodion," a "Cawn ni gwrdd tu draw i'r afon," yn y gwasanaeth; a "Bydd myrdd o ryfeddodau," wrth y bedd. Yr oedd y blodau oedd yn gorchuddio ei harch yn hardd a drudfawr.

Rhoddwyd ei gweddillion i orphwys yn mynwent brydferth Cedar Grove.
Heddwch i'w llwch.

Y Drych Ebrill 10fed, 1919.