ROBERT HUGH ROBERTS. LUZERNE COUNTY, PENNSYLVANIA.

Damwain Angeuol yn y Gwaith Glo i Un o Fechgyn Bethesda. Hydref 13eg, taenwyd y newydd prudd ar led fod un o fechgyn Bethesda wedi ei ladd mewn gwaith glo yn Parsons, lle cyfagos i'r dref hon, sef y brawd ieuanc, Robert Hugh Roberts, brodor o Caellwyngrydd; yn fab i Thomas a Jane Roberts, sydd ar hyn o bryd yn byw ar fferm Tanybwlch, ger y lle.

Cartrefai am flynyddau gyda'i ewythr a'i fodryb, Mr. a Mrs. Rowland Jones, Westmore; Rowland Talsarn fel yr adnabyddid ef gan rai o'r hen ardal, yr hwn le fu yn gartref da iddo oddicartref, ac y mae ei anwyl ewythr a'r teulu yn teimlo yn ddwys ar ei ol.

Hydref 21ain, 1918, priododd gyda Elizabeth Jones, merch Mr. a Mrs. Hugh Thomas, Edwardsville, yr hon sydd wedi ei gadael yn unig mewn galar wedi ond prin flwyddyn o fywyd priodasol.

Mae ei dad a'i fam, a brodyr a chwiorydd iddo wedi cael y newydd torcalonus erbyn hyn yn Nghymru. Gadawodd gartref tua naw mlynedd yn ol, ac yr oedd yn ei fryd fyned yn ol yn fuan. Y pryd hyny, nid oedd yn meddwl ryw gryf sefydlu yn y wlad hon, ond aeth blynyddau heibio, ac yntau trwy ei ddiwydrwydd a llafur wedi cyraedd safle dda a phwysig fel assistant mine foreman, ag yr oedd y par ieuanc newydd sefydlu mewn cartref hardd, yn un o dai newydd y cwmni yn Parsons. Ond daeth angeu mewn modd sydyn a dychrynllyd, gan dori yr uniad a'r holl gynlluniau.

Daeth tyrfa fawr i dalu y gymwynas olaf iddo o bob cenedl. Yr oedd yn fachgen a fawr hoffid gan y gweithwyr, y rhai a ballasant a gweithio ddydd ei angladd, ac yr oedd y blodau oddiwrthynt ac eraill ar ei arch yn hardd a lluosog iawn. Daeth llu mawr o'i hen ardal enedigol, hefyd, sydd ar hyd y dyffryn yma, ac o Scranton, Taylor, a.y., a'i fodryb, chwaer ei dad, o Utica, ac un o Bangor, Pennsylvania.

Gwasanaethwyd gan y Parchn. Mr. Harris, Edwardsville; Williams, Providence, a John R. Williams, Kingston, ei hen weinidog pan yno yn byw, ac hefyd ei athraw yn yr Ysgol Sul. Canodd pedwarawd yn swynol ac effeithiol. Yr oedd yn bleser gwrandaw ar fechgyn yr hen ardal yn canu tenor a bas, y rhai oedd wedi crynhoi at eu gilydd.

Rhoddwyd ei weddillion i orphwys yn mynwent hardd Forty Fort. Cafodd angladd hardd a phoblogaidd. Nerth gaffo ei briod a'r holl berthynasau i ddal yr ergyd drom, yn enwedig ei anwyl dad a'i fam sydd yn mhell heb gael gwneyd na gweled dim yn yr amgylchiad i'w hanwyl fab. Fy nghofion a'm cydymdeimlad atynt. Yr wyf yn cofio ei fam yn dda oddiar yn ieuanc, yn ysgol ddyddiol Rachub; a'i dad yn un o deulu Caehaidd; dau hen deulu adnabyddus y plwyf, sef Talysarn a Cae-haidd.
Gan Mair Llechid.

Y Drych ~ Tachwedd 13eg 1919.