ROBERT T. ROBERTS. MANKATO, MINNESOTA.
Yn ei gartref yn y ddinas hon, bu farw Robert T. Roberts, Chwefror 24ain, yn agos i 83 mlwydd oed.Fel yr hysbyswyd, cafodd godwm yn ei dy, ddydd Mercher cynt, yr hyn drodd yn angeuol iddo. Yr oedd wedi syrthio amryw weithiau o'r blaen, ond daeth y diwedd. Yr oedd wedi bod yn ddyn cryf a hoenus, mysgrellni wedi ei ddal, a'i glyw yn drwm. Fe'i ganwyd yn agos i Llanelltyd, Sir Feirionydd, yn ail o blant Evan ac Elizabeth Roberts. Daethant i'r wlad hon yn y flwyddyn 1851, ac yn Caledonia, Wisconsin, bu eu cartref gyntaf, ond symudasant cyn hir i Ddyffryn La Crosse, gan brynu darn helaeth o dir yn ardal Bethel. Yn ei gartref cychwynwyd achos crefyddol gyntaf, a hyny yn y flwyddyn 1853. Cafodd ei ddewis yn flaenor. Bu yn dal y swyddi pwysig gyda'r achos tra bu yn y dalaeth, a bu yn ddiacon o radd dda hyd ei farwolaeth.
Daeth i Minnesota yn y flwyddyn 1857, a bu yn y cylchoedd am bum mlynedd, ond o herwydd terfysg yr Indiaid aeth yn ol i Wisconsin. Yn y flwyddyn 1896, gwerthodd ei eiddo yno a daeth i fyw i Mankato, gan wneyd ei gartref hyd ddiwedd y daith. Bu amryw anafau yn Oklahoma, er lleshad i'w iechyd.
Mrs. Roberts, yr hon erbyn hyn sydd wedi ei gadael yn unig, sydd heb fod yn gref iawn o ran iechyd a mynych wendid.
Cynaliwyd gwasanaeth angladdol yn y capel Cymreig, y Parchn. Griffiths. Lake Crystal; John D. Jones, Coed Mawr, a W. E. Evans, yn gweinyddu. Awd a'i weddillion i Sparta, Wisconsin, i'w claddu yn mynwent y teulu yn ol ei ddymuniad. Diameu y ceir cofiant teilwng o hono gan ei weinidog. Carmelyn.