ROWLAND J. ROBERTS. WATERVILLE, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Un eto o'r hen filwyr wedi myned. Rowland J. Roberts a anwyd yn Sir Feirionydd, Gogledd Cymru, Mawrth 15fed, 1842. Pan yn ddeg oed, daeth efe a'i rieni i'r wlad hon, ac a sefydlasant yn Cassville, New York.Ar ol addysg fel ei gyfoedion, ymrestrodd yn Awst, 1861, gyda'r Magnelwyr o New York. Gwasanaethodd gyda hwynt fel milwr hyd Chwefror, 1864, pan y cadd ei ryddhad. Yn mis Medi, o'r un flwyddyn, ail ymunodd a Gwirfoddolwyr New York, a pharhaodd gyda hwynt hyd Mehefin, 1865, pan gyda llawer, y cafodd ei ryddhad terfynol yn Richmond, Virginia. Sefydlodd yn Bridgewater, a dechreuodd weithio fel saer coed a thai. Yn 1870, daeth i Waterville, ac ymgymerodd ac adeiladu gweithiau pwysig.
Yn 1898 cadd ergyd o'r parlys. Fel Gwerinwr mewn gwleidyddiaeth llanwodd lawer swydd bwysig yn Waterville a'r cylch. Fel ei dad o'i flaen, yr oedd yn un o'r Maswniaid. Bu yn llywydd y Rowell Post, No. 23, G. A. R. am wyth mlynedd. Yr oedd yn aelod hefyd o'r Second New York Heavy Artillery Veteran Association.
Er wedi ei eni yn Nghymru, ac yn feistr ar y Gymraeg, ni fu erioed yn cymysgu llawer gyda'r Cymru. Priododd yn Ionawr 1af, 1868 a Harriet E. Jones, Bridgewater, yr hon sydd yn fyw i alaru ar ei ol. Ei blant ydynt: William L., Utica; Rebecca, priod Richard Roberts, Waterville; Harriet C., priod Charles T. Coggleshall, Fort Bigelow, California. Y mae hefyd wyrion a brawd, David, yn Bridgewater.