ROBERT ROGERS. CINCINNATI, HAMILTON COUNTY, OHIO.

Bu farw Mr. Robert Rogers yn ei gartref, 3919 Lindley Avenue, Norwood, Ohio.

Yr oedd yn enedigol o Llanfachreth, yn agos i Ddolgellau, Meirionydd. Daeth i'r America yn fuan wedi terfyn y rhyfel cartrefol. Gwnaeth arosiad byr yn Whitesboro, New York, yn mha le yr oedd iddo amryw berthynasau y pryd hwnw. Aeth oddiyno i Cincinnati. Yn ei awydd am weled y De, talodd ymweliad am rai misoedd a New Orleans, a dychwelodd i Cincinnati, yn mha le y treuliodd weddill ei fywyd.

Yr oedd Mr. Rogers yn saer coed o'r fath mwyaf cywrain ac addurnol. Y mae yn aros heddyw yn y Music Hall yn Cincinnati, waith yn dystiolaeth o'i chwaeth a'i fedrusrwydd yn addurno yr organ, yr hon sydd un o'r rhai mwyaf yn America.

Gadawodd weddw, sef Mrs. Kate Rogers (gynt Evans), yr hon fu yn enwog fel unawdes soprano yn y cor Gymreig yn Cincinnati fu yn cystadlu mewn amryw Eisteddfodau yn Ohio, o dan arweiniad y diweddar Ebenezer Bowen. Bydd ei phlant yn gysur iddi yn ei hunigedd, sef Mrs. Anna Sherman, yn Youngstown, Ohio; Walter D. Rogers, cyfreithiwr, Norwood, Ohio.

Yr oedd Mr. Rogers yn aelod o'r Seiri Rhyddion (Free Masons), y rhai gymerasant ran yn y claddedigaeth. Gwasanaethwyd yn y ty ac ar lan y bedd gan y Parch. Williams, yr hwn sydd wedi bod yn llanw pwlpud May and Crown Streets, am y misoedd diweddaf. Yr oedd Mr. Rogers wedi bod yn aelod o eglwys (A.) Lawrence St., am dros haner can mlynedd, ac er ymhell o'r capel, yr oedd yn mynychu y moddion yn lled gyson. Yr oedd yn edmygwr o'r lenyddiaeth Gymreig; ac wrth ei fodd yn ngweithiau Emrys a Gwilym Hiraethog. Mawr hoffai son am enwogion Sir Feirionydd.

Gwelais yn ei angladd rai o blant ei chwaer a'i phriod, sef Mr. a Mrs. John Morgan, pa rai ydynt wedi ei ragflaenu tu draw i'r llen. Myned yr ydym ninau tua diwedd y daith.

Amser, O, mor gyflym ydyw;
Chwim olwynaw mae o hyd;
Ninau'n teithio yn ei gerbyd
Tua gorsaf bythol fyd.
Cyfaill.

Y Drych ~ Medi 18fed 1919.


ROBERT ROGERS. CINCINNATI, HAMILTON COUNTY, OHIO.

Marwolaeth a Chladdedigaeth Robert Rogers.
"Un genedlaeth a a ymaith, a chenedlaeth arall a ddaw." Dyna ydyw hanes preswylwyr y byd hwn. Bu eraill yma o'n blaen ni, ac yr ydym ninau yma o flaen eraill. Mae y byd hws mewn ystyr naturiol a chrefyddol yn cyfnewid, fel y gwna y goedwig newid ei dail. Y mae parch i goffadwriaeth y marw, yn nghyd a lles y byw, yn gosod rhwymedigaeth arnom i gadw y cyfiawn mewn coffadwriaeth. Credwn fod ein hanwyl gyfaill er's deugain mlynedd yn un o'r cyfryw; felly, nid iawn ynom fydd gadael ei enw i syrthio i annghofrwydd.

Foreu dydd Mercher, Medi 3ydd, ymdaenodd cwmwl o bruddder neillduol yn mysg yr holl Gymry yn ein dinas gan y newydd am farwolaeth ein cyfaill a'n cymydog cywir, Robert Rogers.

Ganwyd Robert Rogers yn Dolgellau, Sir Feirionydd, tua'r fiwyddyn 1839. Nid oes yn ein meddiant ddyddiau mab-oed ein cyfaill, ond y lle yr oedd ei adgofion fwyaf oedd Porthmadog, achos dyna y lle y dygwyd ef i fyny, ac y prentisiwyd ef yn y gwaith cywrain o "cabinet maker." Cerfiwr coed caled oedd, ac yn sicr, yr oedd yn hynod gywrain yn y gwaith cerfio. Y mae olion ei waith ar wyneb yr organ fwyaf yn y byd, yn y Music Hall yn y ddinas hon.

Ei brif bregethwyr y sonia gymaint am danynt oeddynt: Aubrey Fawr, Robert Ellis (Cynddelw), John Roberts (Llanbrynmair), William Griffith (Caergybi), Owen Thomas (Lerpwl), a Henry Rees. Meddai bob amser, "Y rhai hyn oedd wyr grymus a nerthol yn mhwlpudau Cymru."

Meddai ein cyfaill ar ysbryd rhagorol. Dangosai ei wyneb agored, ei lygaid chwareus a dwfn, yn nghyd a thon ei lais, y natur fwyaf teg a charuaidd. Yr oedd ei ddonioldeb a'i asbri yn ddi-ddiwedd.

Yr haul yn llathru ael y nen,
A'r ddaear yn ei mantell wen;
Fel awgrym gobaith gwanwyn cu
Ar foreu claddu ein Rogers ni.
Ni a gredwn fod teg haul ei nen
Yn llachar iawn, a'i wisg yn wen;
A'i froydd mwy dan geinion cu -
Pob peth yn wyn i'n Rogers ni.

Gadawodd ein cyfaill i alaru ar ei ol, ei anwyl wraig, un mab, yn gyfreithiwr, yn nghyd a merch yn byw yn Youngstown, Ohio. Gweinyddwyd yn y ty ac ar lan y bedd gan y Parch. Arthur E. Williams, M. A. Canwyd amryw emynau Cymreig: "Gwaed y Groes," "Bydd myrdd o ryfeddodau," "Beth sydd i mi yn y byd." Claddwyd ef yn mynwent bardd Spring Grove.

Tra yn talu ymweliad a'm lluaws berthynasau yn ngwlad Oak Hill, Jackson a Centreville, cawsom y fraint o glywed y Parch John C. Jones, D. D., gynt o Chicago, ac yn sicr yr oedd hon yn wledd. "Braint, braint yw cael cymdeithas gyda'r saint," tra yn sicr yr amser hwnw yr oeddem yn agos iawn i'r saint. Yr elfen amlycaf yn y Parch. John C. Jones yw ei hyawdledd naturiol. Hefyd, clywsom y pregethwr ieuanc, y Parch. John Pugh Jones. Yn sicr, y mae hwn eto wedi ei eni i fod yn efengylwr.
Gan W. Lloyd Hughes.

Y Drych ~ Medi 25ain 1919.