GRIFFITH GRIFFITH THOMAS. LOS ANGELES, CALIFORNIA.

Los Angeles, Mehefin 4ydd.

Yn blygain foreu Sabboth, Mai y 25ain, bu farw y Cymro caredig Griffith G. Thomas yn y ddinas hon wedi ychydig ddyddiau o gystudd caled iawn.

Ganed y brawd ymadawedig yn 1865, mewn tyddyn bychan o'r enw Cae'r-rhos, Llanrug, Arfon ac yn y cartref hwnw erys ei unig frawd, Tom, yn bresenol.

Daeth ein gwrthrych i'r wlad hon tua'r flwyddyn 1887, ac ymsefydlodd yn ardaloedd y glofeydd Talaeth Pennsylvania, a thra yn Lansford, yn 1894, ymunodd mewn glan briodas, ac o'r briodas erys pedwar o blant gyda'r fam i alaru o golli priod a thad tyner iawn, sef May (Mrs. Clark), o'r ddinas hon, Harriet, Griff, Elizabeth, pa rai sydd gartref.

Symudodd y teulu i Butte, Montana, ac yno tra yn gweithio yn y mwnau mewn gwlybaniaeth torodd iechyd ein diweddar gyfaill i lawr, ac yn y lle hwnw ymosododd clefyd y crydcymalau arno yn galed iawn. Wedi bod yno dair blynedd-ar-ddeg, tua saith mlynedd yn ol, daeth gyda'r teulu i'r ddinas hon er adenill ei iechyd, ac yn ol ei dystiolaeth ei hun iddo gael gwellhad lawer, a chofiem yr adeg y daeth yma nas gallai ymlwybro ond yn unig gyda chymorth baglau, a buan y daeth i gerdded heb gymorth yr un ffon.

Tua mis yn ol cafodd anwyd trwm, ac ymosododd yr hen glefyd arno, a'r canlyniad ydoedd i'r hen babell o glai fethu a gwynebu y ddymod. Daeth pen y daith iddo ar y ddaear.

Cawsom ynddo wir gyfaill, hawdd ei hoffi; meddai wen siriol bob adeg; yn ymgomiwr dyddan. Ni chawsom ef un adeg yn cwyno drwy ei holl ddyoddef. Er na fu iddo ymaelodi mewn unrhyw eglwys, bu'n ffyddlonach na neb o'r aelodau i'r eglwys Gymreig yn y ddinas hon, a bu yn dra ffyddlawn gyda cor yr eglwys. Yr ydoedd ei hoffder at gerddoriaeth yn fawr, yn hynod felly. Nis gallai dim bron ei atal rhag dyfod i'r canu. Meddai lais bass o ansawdd rhagorol: yn ddarllenwr cywir o'r ddwy nodiant. Yr ydoedd yn dra nodedig pan yn fachgen fel alto penigamp; a byddai galwadau mynych am dano oddiwrth bob cymdeithas gorawl ardaloedd cerddgar ei faboed oddeutu deugain mlynedd yn ol. Bu yn aelod o'r Arvonic Choral a'r Llanrug Brass Band, a byddai gwrando arno yn adrodd hanes y gystadleuaeth galed welodd yr amser a fu yn ddyddorus neillduol i'r sawl sydd o'r fangre gerddorol uchod.

Chwith genym ei golli, ac i'w lu cyfeillion dros y wlad. Drylliwyd ei delyn yma, ac ehedodd ei ysbryd i'r wlad hono nad oes son am ddrylliad un o'i thelynau o'i mewn.

Am ddau o'r gloch ddydd Mawrth, cafwyd gwasanaeth angladdol iddo yn y capel Cymraeg, tra y cor yno yn gryno yn canu rhai o'i hoff donau. Gwasanaethwyd gan ein gweinidog, Dr. R. H. Jones, a rhoddwyd ei weddillion i orwedd yn mynwent Evergreen. Wedi canu ar lan ei fedd, "Bydd myrdd o ryfeddodau," cymerodd y Seiri Rhyddion ofal o'r gweddill o'r gwasanaeth, o'r hon gymdeithas yr ydoedd yn aelod.

Derbynied y weddw a'r amddifaid yma, a'i frawd yn Nghymru, ein cydymdeimlad llwyraf.
Gan Dewi.

Y Drych Mehefin 19eg, 1919.


GRIFFITH GRIFFITH THOMAS. LOS ANGELES, CALIFORNIA.

Griffith G. Thomas died yesterday at his home, 1386 East Forty-sixth street.

He was born at Carnarvon, Wales, and came here from Butte, Montana, eight years ago.

He was a Mason and an Elk and was a popular singer at the lodge meetings.

He leaves a widow and two children.

The body is at the establishment of Utter and Ruppe. The funeral service will be held at 2 p.m. tomorrow at the Welsh Presbyterian Church, Fifth and Crocker Streets.

The Los Angeles Times ~ May 26th, 1919.