MARY ROWLANDS. CLARKLAKE, JACKSON COUNTY, MICHIGAN.
Er cof anwyl am Mrs. Mary Rowlands, gweddw y diweddar Richard Vulcan Rowlands, Cincinnati, Ohio, yr hon a fu farw yn ei bwthyn haf, Clarke's Lake, Michigan, ddydd Gwener, Awst 29, 1919.Ganwyd Mrs. Rowlands yn Tan Llan, Llan Mawddwy, Meirionydd yn y flwyddyn 1846.
Yr oedd wedi cyraedd yr oedran teg o 73. Enwau ei rhieni oeddynt William a Margaret Thomas, a daeth i'r America o'r Amwythig yn 1869, gan ymsefydlu yn Cincinnati, yn mha le yr oedd iddi amryw berthynasau, lle y treuliodd weddill ei hoes.
Tachwedd 25ain, 1872, yn Cincinnati, unwyd hi mewn priodas gan y diweddar Barch. Griffith Griffiths gyda Mr. Richard Vulcan Rowlands, Brithdir, ac o'r undeb ganwyd iddynt dri o blant, sef un mab a dwy ferch; Mr. Howell Rowlands, expert electrician, yn byw yn Newark, New Jersey; Mrs. Margaret Rowlands Turner, yr hon sydd yn dal swydd bwysig mewn banc yn Lexington, Kentucky, a Mrs. Ethel Buchanan, Price Hill, Cincinnati, a'i gwr yw perchenog y Buchanan Chemical Company. Heblaw y plant, gedy un chwaer, ac un brawd, yn eu galar, sef Mrs. John Griffiths, Norwood, Ohio, a Mr. Rowland Thomas, Llan Mawddwy, Meirion.
Cymerodd ei hangladd le o gapel Lawrence Street, Cincinnati, Ohio, ddydd Llun, Medi 7fed, pryd yr oedd cynulliad lluosog yn nghyd i dalu y gymwynas olaf i'r hyn oedd farwol o Mrs. Rowlands. Oherwydd fod yr eglwys yn amddifad o weinidog ar hyn o bryd, trefnwyd y gwasanaeth gan y Parch. J. H. Colcough, gweinidog eglwys Bresbyteraidd Price Hill, lle y mae Mr. a Mrs. Buchanan yn aelodau, ac y byddai Mrs. Rowlands yn addoli yn achlysurol. Cymerwyd rhan yn Gymraeg gan y Parch. Arthur Williams (M. C.).
Claddwyd ei gweddillion marwol yn mynwent brydferth Spring Grove. Sylwodd y pregethwr Seisnetg am novedd neillduol ei chymeriad: "Mrs. Rowlands was a woman of strong convictions and gentle in her persuasion."
Fel mam, ei phlant a godant ac a'i galwant yn ddedwydd. Hapus olygfa mam dda wedi gwneyd ei goreu i'w phlant ar gyfer dau fyd tra gallodd, ond wedi i'w nerth ballu i raddau gan henaint, dacw y plant a'r wyrion ar eu goreu i wneuthur diwedd ei dyddiau yn llawn hapusrwydd.
Mae nifer o wragedd rhinweddol yn eglwys Lawrence Street, ond credaf na thramgwydda yr un o honynt os dywedaf am Mrs. Rowlands: "Ti a ragoraist arnynt oll." Yr oedd yr achos goreu yn agos at ei chalon. Ychydig amser cyn iddi ymadael tros yr haf, tra yr oedd yr ysgrifenydd yn cydrhodio a hi oddiwrth y capel, wrth son am symudiadau i leoedd eraill a marwolaethau, "Wel," meddai, "wn i ddim beth ddaw o'r eglwys." Teimlad cyffredinol yw mai dyma yr ergyd trymaf gafodd yr eglwys er's blynyddau. Flynyddau yn ol, pan oeddynt yn byw yn agos i'r capel, yr oedd eu ty yn llety fforddolion, a chroesaw a neillduol barch i bob gweinidog; a llawer crwydryn o Gymro gafodd bryd o fwyd o'r mwyaf blasus, ac os yn wag ei logell, darn o arian yn ei law i dalu am le i orphwys dros nos.
Y mae amryw o'i pherthynasau yn wasgaredig yn Iowa, ac hefyd yn Utica. Mae nith yna newydd briodi a dyn ieuanc o'r enw Rowlands, a'i henw morwynol oedd Mary Thomas; felly y mae Mary Rowlands eto yn y teulu, a gobeithio y bydd iddi gadw i fyny urddas yr enw. Yr oedd hefyd yn perthyn i'r Hybarch R. Mawddwy Jones. Bydd y cylch Cymreig yn wag heb Mary Rowlands.
Nid marw wnaeth, ond byw yw hi,
Mewn byd o gyraedd poen;
Lle nad oes gloes na chroes na chri
Yn ngwyddfod Duw a'r Oen;
Yn nghanol teulu glan y nef
Yn canu'r anthem iddo Ef.
Cyfaill Boreu Oes.