MARY CATHERINE THOMAS. SLATINGTON LEHIGH, PENNSYLVANIA.

Awst 19eg, 1919, yn nghartref ei mab ar Second Street, bu farw yr hen chwaer, Mrs. Mary C. Roberts, priod y diweddar Mr. Humphrey Roberts (Ffestiniog); hen gymeriad ffyddlawn, a wedi bod yn mysg y saint yn Bethel (A.) am lawer blwyddyn.

Oddeutu tair blynedd yn ol, gwanychodd ei hiechyd fel nas gallasai fyned tua Seion mwy. Collodd ei llafar fel nas gallasai gario un math o ymddyddan a neb, er hyny yr oedd yn eithaf amlwg hyd yn nod i ddyeithriaid fod ei hysbryd yn llawn iechyd, ac fod yr ymdrafodaeth a'i Thad nefol yn parhau mor fywiog ag erioed.

Ganwyd yr ymadawedig yn Bethesda, Arfon, yn y flwyddyn 1849, a daeth i'r wlad hon oddeutu deugain mlynedd yn ol, gan ymsefydlu yn y dref hon, lle y gwnaeth lawer o ffryndiau iddi ei hun trwy fod yn ffrynd i bawb. Ganwyd iddi bum mab ac un ferch, pa rai sydd heddyw yn hiraethu ar ol un fu yn fam dyner ac anwyl iddynt.

Ddydd Gwener, y 22ain daeth y ffryndiau at eu gilydd i dalu y gymwynas olaf i'r hyn oedd farwol, pryd y gwasanaethwyd yn y ty, yn y capel, ac wrth y bedd, gan ei gweinidog, y Parch. R. L. Williams. Bydded i Dduw yr hen fam fod yn Dduw i'r plant oll yw ein dymuniad.
Cyfaill.

Y Drych ~ Medi 18fed 1919.