WILLIAM THOMAS. CINCINNATI, HAMILTON COUNTY, OHIO.
Yn yr ysbyty yn Cincinnati, foreu Sabboth, Medi 7fed, bu farw William Thomas, yn 56 mlwydd oed. Saer coed ydoedd wrth ei alwedigaeth.Yr oedd yn enedigol o Llan Mawddwy, Meirionydd, ac yn fab i'r diweddar William a Margaret Thomas, Tan Llan. Claddwyd ei wraig tua diwedd y flwyddyn ddiweddaf. Mae dau o blant wedi tyfu mewn oed, sef mab a merch; ac wedi eu gadael yn amddifaid; hefyd un chwaer, Mrs. John Griffiths, Norwood, Ohio; ac un brawd yn Nghymru, Mr. Rowland Thomas, Llan Mawddwy.
Cymerwyd William Thomas i'r ysbyty ar ddydd Gwener, yn y prydnawn. Bron ar yr un awr, bu farw ei chwaer, Mrs. Rowlands, yn Clark's Lake, Michigan. Ei ffyrdd mor anolrhainadwy ydynt!
J. E.
Y Drych ~ Medi 18fed 1919.
WILLIAM THOMAS. CINCINNATI, HAMILTON COUNTY, OHIO.
"Prudd yw fy nhelyn a dihedd, A hiraeth sy'n tristhau fy ngwedd; Mae'm hawen fel aderyn claf- Adgofion sydd yn lleddfu'r tant; A'm hysbryd inau yn y pant Ar byd i gyd fel byd di-haf." Dyna fel yw ein teimlad y tro hwn, ar ol claddu cyfaill ag oedd yn agos iawn atom er's blynyddoedd lawer, sef ein hanwyl gyfaill William Thomas, o'r ddinas hon.Terfynodd ei rawd, Medi 7fed, wedi gweled o hono dros yr haner cant o flwyddi yn nhaith yr anial. GanWyd ef yn Llan-y-Mawddwy, Sir Feirionydd, a gadawodd yr hen gartref pan yn bur ieuanc, hyny ydyw, ar ol treulio yr amser arferol o ddysgu y grefft o saer cywrain; a chan fod ganddo chwaer wedi ei flaenori i'r ddinas hon, daeth yntau ar ei hoi, a chafodd waith ar ei laniad gan y James Griffiths and Sons, contractors mwyaf y ddinas, ac ar ol bod yn ei gwasanaethu am flynyddoedd, cafodd waith fel boss carpenter o dan y ddinas yn mysg gwerin gwlad.
Ni safai neb yn uwch ar fryn parch na William Thomas; yr oedd pawb o'r Cymry a chenedloedd eraill yn ei adnabod, yn enwedig ar ben "Mynydd Adda," fel y gelwir parth o'r ddinas hon. Yn ei amser, canodd lawer. Ni choleddai ddygasedd at neb, ac nid oedd brad yn agos at ei galon. Yr oedd mor syml ac unplyg ei feddwl, mor ddiniwed a gonest ei ysbryd, fel nad oedd lloches i feddyliau annheilwng yn ei fynwes. Yr oedd yn Gymro o'r Cymry; yn caru hanes y Cymry; yn caru iaith y Cymry; a'i fwynhad penaf oedd son mewn adgof am yr hen Gymry; ac fel y dywedodd un ar ddydd ei angladd, "Y mae 'Mynydd Adda' heddyw yn dlotach, a nerth y cylch yn wanach, o herwydd colli yr anwyl gyfaill, William Thomas, o'n plith."
Darllenodd lawer ar y "Drych." Ei brif bregethwr oedd y Parch. Mawddwy Jones, a'r Doctor Owen Evans, Llundain, gynt. Ychydig fisoedd ynool, bu farw ei anwyl wraig, a bu hyn yn help i gyflymu yr olwyn yn gyflymach am ardal loaydd broydd y bedd. Gadawodd i alaru ar ei ol, fab a merch; un brawd yn Nghymru, a'i anwyl chwaer, Mrs. John Griffiths, o'r ddinas hon.
Gweinyddwyd yn yr hen gartref, ac ar lan y bedd yn Spring Grove, gan y Parch. Arthur E. Williams, M. A., a chanwyd amryw hen Omynau Cymreig, sef "Bydd myrdd o ryfeddodau," "Beth sydd i mi yn y byd," "Mae'n cyfeillion adre'n myned," a.y.
Gan W. Lloyd Hughes.