JOHN EVAN THOMAS. WILKES BARRE, LUZERNE COUNTY, PENNSYLVANIA.

Blin genym fynegi am farwolaeth y brawd anwyl, John Evan Thomas, Grove Street, South Wilkes-Barre, Pennsylvania. Y gauaf diweddaf, cafodd ymosodiad o'r "fflu," a gadawodd hwnw ei golyn marwol yn ei gyfansoddiad, a dechreuodd ei babell ddadfeilio yn gyflym iawn, a chafodd ymosodiad ddechreu Tachwedd o'r pneumonia. Ar y llfed o Tachwedd, machludodd ei haul yn yr oedran o 50 mlwydd oed, gan adael priod a phump o blant i alaru ar ei ol; dau fab a thair merch. Y meibion yw Zaccheus ac Evan; a'r merched: Mrs. Watkin Owens, Jennie Thomas ac Ellen Thomas; y plant i gyd gartref gyda'r fam.

Enw ei dad oedd Evan Thomas; a'i fam, Jane Thomas; ac mae y ddau wedi gadael y fuchedd hon; ac y mae tair chwaer iddo eto yn aros yn yr Hen Wlad, sef Sarah, Mary Jane a Cathrin.

Man ei enedigaeth oedd Half Way Terrace, Creigiau Mawr, Talysarn, Dyffryn Nantle. Adnabyddid ef wrth yr enw Jack Dre yn yr Hen Wlad. Yr oedd iddo lawer o gyfeillion yn Utica ac ardaloedd y chwarelau. Ymfudodd efe a'i deulu i'r wlad hon yn y flwyddyn 1906, gan ymsefydlu yn South Wilkes-Barre, Pennsylvania, yn y glofeydd.

Claddwyd yr hyn oedd farwol o hono yn Mount Greenwood, ddydd Sul, y 16fed. Gwasanaethwyd yn y ty gan y Parch. John R. Williams, Kingston, a chanwyd yn dra effeithiol gan bedwar brawd o eglwys South Wilkes-Barre, ei hoff emynau. Yr oedd y gwasanaeth i gyd yn rhagorol. Yr archgludwyr oeddynt ei gyfeiilion boreu oes, sef Hugh Ed. Roberts ac Enoch R. Jones, Talysarn; William. Jones Williams a Nathaniel Roberts, Penygroes; Robert Williams, Cilgwyn; a William Williams, Beddgelert gynt.

Yr oedd yn ddyn tawel a charedig, yn dad gofalus, ac yn glynu wrth ei gartref bob amser. Yr oedd yn hollol ddifalais, ac yn weithiwr caled a hoffus gan ei gydweithwyr, fel yr oedd hyny yn cael ei ddangos trwy y blodau prydferth a dderbyniodd ganddynt fel arwydd o barch iddo; ac yr oedd yn dangos ei foi yn uchel yn eu golwg. Yr oedd yn wrandawr ffyddlon o'r Efengyl, ond fel llawer eraill, rywbeth yn ei ddal yn ol rhag rhwddi ei hunan' i'r Iesu, ond i'm golwg i, yr oedd wedi costio gormod i'w Waredwr i fyned ar goll, a phan ar ei glaf wely, fe glywodd yr Iesu yn sibrwd yn dawel wrtho, "A fyni di dy wneuthur yn iach?" Cododd ochenaid yn ei galon megys, a gwaeddodd, "Mynaf, Arglwydd," ac efe a hunodd yn yr Arglwydd, ni a obeithiwn.

Mi glywais lais yr Iesu yn dweyd,
Goleun1 byd wyf fi;
Dy wyneb tro, drallodus un,
Daw boreu clir i ti;
Mi droais at yr lesu cu,
Daeth haul 'rol noson faith,
A rodiaf yn ngoleuni Hwn
Nes dod i ben fy nhaith.

"A mi a gaf edrych ar ei wyneb mewn cyfiawnder." "Digonir fi pan ddihun- wyf a'th ddelw di." Hyn fydd ei ran. Heddwch i'w lwch.
Un o'i hen gyfeillion boreu oes, Hugh Edward Roberts, Plymouth, Pennsylvania.

Y Drych ~ Rhagfyr 11eg, 1919.