JOHN G. THOMAS. FAIRHAVEN, RUTLAND COUNTY, VERMONT.

Y dydd cyntaf o Hydref, bu farw y boneddwr poblogaidd, John G. Thomas, Grape Street, o'r dref hen.

Genedigol ydoedd yr ymadawedig o Bethesda, Arfon, Gogledd Cymru, ac yn fab i John ac Ann Thomas, Tanyffordd, Pena'r Carneddi, o'r ardal hono.

Yr oedd ein cyfaill ymadawedig yn tynu at ei 75 mlwydd oed. Ymfudodd i'r wlad hon yn ddyn ieuanc heinyf a hardd, gan ymsefydlu gyntaf yn Middle Granville, New York. O ran ei alwedigaeth, yr oedd yn chwarelwr medrus a champus. Bu yn y gwaith hwn mewn amryw Dalaethau, sef Pennsylvania, Maine a Vermont, ond yn Nhalaeth y Bryniau Gwyrddion y treuliodd fwyaf o'i amser; ac yn ystod yr amser hwn, daliodd swyddi cyfrifol fel pen gweithiwr am flynyddau lawer i gwmniau chwarelyddol.

Yr oedd yr ymadawedig yn ddyn a fawr hoffid yn mhob cylch, ac yn foneddwr cywir yn ngwir ystyr y gair. Er nad oedd yn aelod eglwysig, yr oedd yn wrandawr cyson a difwlch, ac yr oedd wrth ei fodd yn gwrandaw yr hen, hen hanes, ac nid oedd dim a'i boddlonai yn fwy na gwrandaw pregeth dda. Yr oedd ei fywyd bob amser yn fucheddol a glan, a'i rodiad bob amser yn gyfryw fel ag yr oedd yn esiampl i lawer o broffeswyr crefydd. Dyna farn ardal gyfan am dano, a gwyr yr ysgrifenydd hyny yn dda, gan ein bod

Wedi bod yn hir gyd-deithio
Yn yr anial dyrys maith.

Yr oedd yn feddianol ar gorff cyd-bwys a hardd, ac yn feddianol ar farn addfed a llawn. Tua thri mis yn ol, derbyniodd y newydd o Gymru am farwolaeth ei unig frawd, Owen Thomas, ysgolfeistr yn Nwyrain, Sir Fon, Gogledd Cymru, ac effeithiodd hyny yn ddwys arno. Hawdd ydoedd. canfod yn ddiweddar fod y ty o glai yn ymddadfeilio, a bod

Blinion hwyrion oriau
A'r nos hir yn ymneshau.

Boreu y dydd y bu farw yr oedd yn y pentref mor siriol ag erioed; ac ni feddyliodd neb ei fod ar drothwy arall fyd. Aeth adref am giniaw, a chyn dau y prydnawn, yr oedd wedi croesi tu hwnt i'r llen. Chwith genym golli ei gymdeithas felus, ac anhawdd credu ryw; fodd fod ein cyfaill hoff yn mhriddellau'r glyn.

O hyn allan mae'n holl-iach, - ymunodd
A chwmni amgenach;
Uwch cur yn awyr burach,
Bywyd a hedd mewn byd iach.

Y dydd Sadwrn dylynol, hebryngwyd ei farwol ran i fynwent Castleton gan dyrfa barchus, ac yno, yn man fechan ei fedd y

Cysga hun yn dawel
Dros enyd yn y grafel
Nes datod trefn y rhod.

Gwasanaethwyd gan y Parchn. John D. Owen a Mr. Newton. Yr archgludwyr oeddynt: John Templeton Jones, Robert Williams, Quinn Williams, William Williams, Benjamin Lewis ac R. Temple Jones.

Yn aros i alaru y mae ei briod hoff ac un mab, gyda'r rhai y mae cydymdeimlad yr ardal, o golli priod ffyddlawn a charedig, a thad tyner a gofalus. Heddwch i'w lwch hyd foreu'r codi mawr. Dymunir ar i rai o bapyrau Arfon wneuthur sylw o'r uchod.
R. O.

Y Drych ~ Hydref 23ain, 1919.